Mae pryderon bod cynnydd mewn costau adeiladu am adael prosiect ffordd osgoi yng Ngwynedd yn brin o gyllid.

Er bod ei fod wedi sicrhau caniatâd cynllunio a chyllid gan yr Undeb Ewropeaidd, bu’n rhaid rhoi saib ar y prosiect gwerth £14 miliwn yn Llanbedr, ger Harlech, ym mis Mehefin 2021.

Daeth hynny ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu stopio pob cynllun adeiladu ffyrdd newydd, tra bod nhw yn cwblhau arolwg.

Roedd cynnydd mewn costau nwyddau adeiladu a recriwtio adeiladwyr wedi cael effaith hefyd, gyda phryderon y bydd y £7.5 miliwn o gyllid Ewrop ddim yn ddigon.

Roedd Pwyllgor Gwaith Cyngor Gwynedd yn dweud bod yr awdurdod yn arolygu cyllid eu holl brosiectau, ac mae posibilrwydd y bydd rhai yn cael eu gohirio tan fydd prisiau wedi sefydlogi.

Bwriad y ffordd osgoi yw lleihau traffig i Ynys Fochras, a gwella mynediad at Faes Awyr Llanbedr.

Maes awyr Llanbedr ac Ynys Fochras

Dywedodd Dafydd L Edwards, Uwch Swyddog Cyllid yr awdurdod:  “Nid yw cynllunio’n broblem ac mae arian wedi’i glustnodi ar gyfer gwahanol agweddau’r prosiect.

“Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn adolygu pob prosiect adeiladu ffyrdd, sy’n ddealladwy oherwydd yr hyn sy’n digwydd gyda newid yn yr hinsawdd.

“Maen nhw wedi cytuno i gyflymu [penderfyniad ar] Llanbedr fel nad ydyn ni’n colli cyllid yr Undeb Ewropeaidd ac mae swyddogion wedi cwrdd â chadeirydd annibynnol y panel ac rydyn ni’n aros am benderfyniad dros yr wythnosau nesaf.

“Os bydd penderfyniad yn cael ei wneud, gallwn symud ymlaen heb golli’r grantiau, ond mae’r oedi wedi codi risgiau eraill fel y costau uwch erbyn hyn.

“Bu cynnydd mewn costau deunydd adeiladu ac mae angen i ni drafod gyda’r Llywodraeth sut rydyn ni’n cau’r bwlch hwnnw.”