Yr heddlu ym Maes y Blwch, Llanelli lle cafodd dyn ei saethu gyda gwn Taser. Llun: Benjamin Wright/PA
Roedd cyn-filwr o Lanelli, fu farw ar ôl i wn Taser yr heddlu gael ei ddefnyddio nos Fawrth, yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, yn ôl ei ffrindiau.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i ardal Maes y Bwlch yn y dref neithiwr yn dilyn pryderon am ymddygiad a lles y dyn sydd wedi’i enwi’n lleol fel Spencer Beynon, 43 oed.

Dywedodd llygad-dystion eu bod nhw wedi gweld y dyn â chyllell cyn iddo drywanu ei hun a chi.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) wedi cadarnhau bod gwn Taser wedi cael ei ddefnyddio cyn i’r dyn farw. Er i ambiwlans gyrraedd y safle, bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Nid yw’r dyn wedi cael ei adnabod yn ffurfiol ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yfory.  Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) wedi cysylltu a theulu’r dyn i roi gwybod iddyn nhw am yr ymchwiliad.

‘Sioc’

Mae lle i gredu bod y dyn wedi gwasanaethu’r lluoedd arfog yn Irac ac Afghanistan, a’i fod wedi bod yn dioddef o straen ers cryn amser.

Yn ystod ei gyfnod yn y fyddin, roedd wedi colli nifer o ffrindiau yn Basra ac wedi bod yn dioddef o ganlyniad i’r hyn yr oedd wedi’i weld fel milwr.

Roedd wedi bod yn ymweld â ffrind ychydig cyn y digwyddiad.

Mae ei ffrindiau wedi mynegi eu “sioc”, ac fe ddywedodd un cyfaill, Brendan Goddard ei fod yn “foi da” ond nad oedd e “wedi bod yr un fath” ers iddo ddychwelyd o’r fyddin.

Mae teyrngedau lu wedi’u rhoi iddo ar wefannau cymdeithasol.

Dywedodd y cynghorydd lleol, Robert Davies: “Mae’n drist iawn. Roedd yn foi neis, ac amser ganddo bob amser i ddweud helo. Dyn cyfeillgar.”

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn ymchwilio i’w farwolaeth ac ymateb yr heddlu cyn iddo farw.