Mae ffrae wedi codi rhwng yr SNP a Michael Gove, Ysgrifennydd Cymunedau San Steffan, tros ddatganoli.
Tra bo’r SNP yn dadlau nad yw’r Undeb yn bartneriaeth “hafal” rhwng y pedair gwlad a bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig o hyd yn tanseilio’r berthynas, mae Gove yn cyhuddo Llywodraeth yr Alban o dynnu grym oddi ar gynghorau lleol.
Wrth amlinellu beirniadaeth yr SNP, dywedodd Patricia Gibson, aelod seneddol Gogledd Sir Ayr ac Arran, nad yw llywodraethau datganoledig ynghlwm wrth gytundebau masnach, nad oes ymgynghori yn eu cylch ac nad ydyn nhw’n cael eu hystyried yn y trafodaethau chwaith.
“Mae Deddf y Farchnad Fewnol yn tanseilio dau ddegawd diwetha’r setliad datganoli,” meddai.
“Ym mha ffordd mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn credu, drwy osgoi’r Seneddau datganoledig sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd fod hynny’n dangos bod yr undeb hon yn bartneriaeth hafal?”
Atebodd Michael Gove drwy ddweud ei fod yn cynnal cyfarfodydd wythnosol â gweinidogion o’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon a bod y cyfarfodydd hynny “fel nyth o adar yn canu”.
“Maen nhw’n wyliau o gytgord a dw i’n cydnabod fod angen i’r SNP gadw eu hymgyrchwyr yn hapus wrth adrodd y cwynion hyn, ond y realiti yw fod y rhai sy’n gwasanaethu Llywodraeth yr Alban yn gwybod ein bod ni, yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ffrindiau ac yn bartneriaid iddyn nhw, ac nad oes gan yr Alban well ffrind na thrigolion eraill y Deyrnas Unedig.”
‘Sathru ar y setliad’
“Mae Deddf y Farchnad Fewnol yn sylfaenol iawn wedi tanseilio’r setliad datganoli ac fe gafodd ei wrthod yn amlwg iawn yn Holyrood,” meddai Patricia Gibson, gan ofyn sut mae Michael Gove yn “egluro bod sathru ar seneddau sydd wedi’u datganoli’n ddemocrataidd yn dyrchafu datganoli”.
Gwrthododd Gove yr honiad mai dyna mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud.
“Gobeithio cyn bo hir y byddwn ni’n derbyn newyddion gan y Canghellor ynghylch dosbarthu arian o dan rymoedd cymorth ariannol Bil y Farchnad Fewnol drwy’r gronfa lefelu i fyny,” meddai.
Pwysleisiodd fod nifer o gynghorwyr yr SNP wedi cefnogi hynny.
“Mae’n wych cael hynny ar lawr gwlad, cynrychiolwyr sydd wedi’u hethol yn lleol yn cefnogi’r grym cymorth ariannol, Bil y Farchnad Fewnol a phwysigrwydd hanfodol sicrhau ein bod ni i gyd yn cydweithio,” meddai.
“Wrth gwrs, fydda i ddim yn ymyrryd yn y setliad datganoli, ond mae yna wahaniaeth yn ein dull ni lle’r ydyn ni’n datganoli mwy o bwerau i lywodraeth leol yn Lloegr, a dull Llywodraeth bresennol yr Alban, sef tynnu grym oddi ar gynghorau’r Alban.”