Gallai mesurau mwy “draconaidd” gael eu hailgyflwyno yng Nghymru pe bai achosion o Covid-19 yn parhau i godi, yn ôl rhybudd gan y prif swyddog meddygol.

Dywed Dr Frank Atherton ei fod wedi ei “siomi” o weld llawer o bobol wedi rhoi’r gorau i gyflawni’r mesurau mwyaf sylfaenol sy’n cael eu hargymell i gadw’n ddiogel, fel gwisgo masgiau a chadw pellter cymdeithasol.

Mae cyfraddau Covid-19 Cymru ar eu huchaf ers dechrau’r pandemig, gyda 3,152 o achosion positif newydd yn cael eu hadrodd ddydd Sul (Hydref 24) a 12 marwolaeth arall, gan ddod â chyfanswm nifer y bobol sydd wedi colli eu bywydau yn y wlad i 6,086.

“Rwy’n credu bod y rhan fwyaf, neu gyfran sylweddol o boblogaeth Cymru yn dal i ymddwyn yn ofalus iawn ac yn sylweddoli nad ydym allan o helynt eto, ond mae yna deimlad gyda rhai llefydd bod hyn i gyd drosodd,” meddai Dr Frank Atherton wrth BBC Radio Wales.

“Pan ydych chi’n gweld pobol sydd ddim yn defnyddio gorchuddion wyneb pan mae’n ofyniad cyfreithiol i wneud hynny, mae hynny’n fy mhoeni i.

“Pan welwch chi bobol yn tyrru i dacsis, fel y gwelais ym Mae Caerdydd neithiwr, heb orchuddion wyneb a pheidio cael eu herio, mae hynny’n fy mhoeni.

“Rwy’n gweld canolfannau hamdden sy’n orlawn lle nad yw pobol yn ymbellhau’n gymdeithasol, mae hynny’n fy mhoeni.

“Dyma sut mae’r feirws yn lledaenu.

“Oni bai ein bod ni fel cymdeithas yn trefnu ein hunain mewn ffordd yr ydym yn ei hadnabod a fydd yn rhoi’r gorau i drosglwyddo’r feirws, yna yn anffodus, efallai y bydd angen dod â mesurau mwy llym a gofynion deddfwriaethol yn ôl i mewn.”

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adolygiad arall o’r rheolau coronafeirws ddydd Gwener (Hydref 29).