Mae astudiaeth yn awgrymu y gallai un dos o frechlyn Covid-19 arwain at ostyngiad o 13% yn y tebygolrwydd o gael Covid hir.
Fodd bynnag, dydy hi ddim yn glir a yw hyn yn para tan ail ddos.
Canfuwyd bod cael dos cyntaf yn gysylltiedig â gostyngiad cychwynnol o 12.8% yn y tebygolrwydd o gael Covid hir ymhlith pobol rhwng 18 a 69 oed yn y Deyrnas Unedig, yn ôl canfyddiadau arbrofol sydd wedi’u cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae ail ddos yn gysylltiedig â gostyngiad pellach o 8.8%, gyda “thystiolaeth ystadegol” o welliant parhaus wedyn.
Gan fod yr astudiaeth yn seiliedig ar arolwg o symptomau gafodd eu cofnodi gan gleifion, dydy’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddim yn gallu dweud yn sicr fod brechlynnau’n effeithio ar y tebygolrwydd o gael Covid hir.
Caiff Covid hir ei ddiffinio fel symptomau sy’n parhau am o leiaf 12 wythnos ar ôl i glaf gael ei heintio â Covid-19 am y tro cyntaf.
Defnyddiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol achosion hunangofnodi o Covid hir rhwng Chwefror 3 a Medi 5.
“Mae astudiaeth heddiw, y mwyaf yn rhyngwladol i edrych ar Covid hir ar ôl cael ei brechu, yn dangos bod y tebygolrwydd o symptomau parhaus yn cael ei leihau ar ôl derbyn brechlyn,” meddai Daniel Ayoubkhani, pennaeth modelu iechyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
“Ond ni allwn ddweud â sicrwydd os mai pobl yn cael eu brechu achosodd y newidiadau a welwyd, ac nid yw’n hysbys o hyd a fydd y rhain yn cael eu cynnal yn y tymor hir.”
‘Ffyliaid’
Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Iechyd San Steffan wedi lambastio “ffyliaid” sy’n cynnal protestiadau gwrth-frechlyn y tu allan i ysgolion.
Dywed Sajid Javid fod plant wedi cael eu hanafu mewn gwrthdaro gyda phrotestwyr, sy’n lledaenu “celwyddau dieflig”.
Mae Llafur wedi galw ar gynghorau i allu defnyddio gorchmynion gwahardd er mwyn gwarchod staff a disgyblion rhag cael eu haflonyddu gan brotestwyr gwrth-frechlyn y tu allan i ysgolion.
Yn ôl Sajid Javid, gallai’r mesurau hynny fod yn opsiwn ar gyfer ymdrin â’r broblem.
Wrth gael ei holi ar Sky News am brotestiadau lle cafodd tri phlentyn eu hanafu, dywedodd Savid Javid fod “y bobol yma’n gwneud cymaint o ddifrod”.
“Yn gyntaf oll, yma mae gennych chi dri o blant sy’n cael eu hanafu, eu hanafu’n gorfforol mewn, ac mae hynny’n dorcalonnus i’w weld – plant sy’n gwneud yr hyn y dylen nhw fod yn ei wneud, mynd i’r ysgol bob dydd, ac mae gennych chi’r ffyliaid hyn y tu allan i’w hysgol yn lledaenu celwyddau dieflig.
“Mae’n dod yn broblem gynyddol wrth i fwy o amser basio.”
Dywedodd fod yna opsiynau ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem.
“O ran a yw’n fater o gyflwyno parth gwahardd, neu gamau posibl eraill, rwy’n credu bod yn rhaid ei wneud ar lefel leol,” meddai.
“Os ydych chi wedi anafu plant, mae hynny’n weithred droseddol ac rwy’n gobeithio yn yr achos hwnnw fod yr heddlu’n gallu olrhain y bobol hynny.”
Datgelodd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) yn gynharach y mis hwn fod y rhan fwyaf o’r ysgolion a gafodd arolwg gan yr undeb (79%) wedi’u targedu gan brotestwyr gwrth-frechlyn.