Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod busnesau bach yn wynebu bil treth gwerth £99.4m, ac mai busnesau Caerdydd ac Abertawe fydd yn cael eu taro waethaf.

Maen nhw, felly, yn galw am ostwng trethi i fusnesau bach pan fydd y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi ei Gyllideb yr wythnos hon.

Bydd busnesau bach yn talu £99.4m yn ychwanegol bob blwyddyn o ganlyniad i gynnydd mewn yswiriant gwladol, yn ôl ymchwil y blaid.

Maen nhw’n cyhuddo’r Ceidwadwyr o dorri addewid maniffesto drwy gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr o 1.25%, gan effeithio ar filoedd o fusnesau bach.

Mae amcangyfrif fod busnesau bach sy’n cyflogi hyd at naw o weithwyr yn wynebu gorfod talu £1,000 yn ychwanegol bob blwyddyn o ganlyniad i’r cynnydd.

Y tu hwnt i’r ddwy brif ddinas, siroedd Caerfyrddin, Powys a Phenfro sy’n wynebu’r effeithiau mwyaf.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru am weld gostyngiad yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn hytrach na chynnydd, cynyddu’r Lwfans Cyflogaeth o £4,000 i £16,000 am o leiaf ddwy flynedd, a fyddai’n golygu torri £5.5bn oddi ar fil treth busnesau bach y flwyddyn nesaf.

‘Asgwrn cefn cymunedau’

“Bydd torri addewid maniffesto’r Ceidwadwyr yn creu ergyd drethi i’r busnesau bach sy’n asgwrn cefn ein cymunedau,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Does fawr o syndod nad yw pleidleiswyr bellach yn ystyried y Blaid Geidwadol fel plaid trethi isel.

“Rydym eisoes wedi colli llawer gormod o siopau oedd yn cael eu trysori oddi ar ein stryd fawr, ac mae gormod o fusnesau’n boddi mewn cynnydd trethi a thâp coch.

“Rhaid i Rishi Sunak roi’r cyfle i fusnesau bach dyfu eto yn hytrach na’u colbio â chynnydd treth llethol.

“Mae’r Canghellor allan o gysylltiad â busnesau bach a phe bai e wir yn poeni eu bod nhw am oroesi, fe fyddai’n canslo’r cynnydd trethi hwn ar unwaith.”

Yr ardaloedd sy’n dioddef fwyaf

Caerdydd £11.7m

Abertawe £7.2m

Sir Gaerfyrddin £6.4m

Powys £6.4m

Sir Benfro £5.8m

Rhondda Cynon Taf £5.7m

Sir y Fflint £5.0m

Gwynedd £4.9m

Conwy £4.4m

Caerffili £4.3m

Casnewydd £4.2m

Wrecsam £4.1m

Pen-y-bont ar Ogwr £4.0m

Sir Ddinbych £3.9m

Sir Fynwy £3.8m

Bro Morgannwg £3.7m

Castell-nedd Port Talbot £3.3m

Ceredigion £3.1m

Torfaen £2.5m

Ynys Môn £2.3m

Blaenau Gwent £1.4m

Merthyr Tudful £1.3m