Bydd miliynau o bobol dros 23 oed yn cael codiad cyflog y flwyddyn nesaf pan fydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn cynyddu o £8.91 yr awr i £9.50 yr awr.

Daeth cadarnhad o’r drefn newydd ar drothwy Cyllideb y Canghellor Rishi Sunak ddydd Mercher (Hydref 27).

Mae’r cynnydd o 59c yr awr yn golygu y bydd gweithwyr llawn amser sy’n derbyn y Cyflog Byw yn cael codiad cyflog o £1,000 y flwyddyn.

Mae’r codiad o 6.6% fwy na dwywaith y gyfradd chwyddiant, sef 3.1%.

Tra bod yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pawb sydd o oed gadael yr ysgol, dim ond pobol dros 23 oed sydd yn gymwys ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol.

I’r rhai 21 a 22 oed, bydd yr isafswm cyflog yn codi o £8.36 yr awr i £9.18 yr awr, tra bydd y ffigwr ar gyfer prentisiaid yn codi o £4.30 yr awr i £4.81 yr awr.

“Dyma lywodraeth sydd o blaid pobol sy’n gweithio,” meddai’r Canghellor Rishi Sunak.

“Mae’r hwb cyflog hwn yn sicrhau ein bod ni’n gwneud i waith dalu ac mae’n ein cadw ni ar y trywydd cywir i fwrw ein targed ac i roi terfyn ar gyflogau isel erbyn diwedd y Senedd hon.”