Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer dwy theatr newydd, gan gynnwys theatr drawma fawr, yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ceisio gwerth £33.54m o gyllid ar gyfer theatrau trawma hybrid ac ardaloedd adfer mewn cyfleuster newydd sbon yn yr ysbyty.

Mae theatr hybrid yn golygu bod theatr feddygol wedi’i chyfuno â chyfleusterau radioleg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r cynllun busnes a fydd yn galluogi llawfeddygon i gynnal llawdriniaethau ar bobol o dde a gorllewin Cymru, gan gynnwys y rhai sydd ag anafiadau difrifol.

Bydd achos busnes llawn yn cael ei gyflwyno gan y bwrdd iechyd, ac fe fydd craffu ar y cynlluniau.

Pe bai’r cynlluniau’n cael eu cymeradwyo’n derfynol, fe allai’r gwaith gael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2023.