Mae Canghellor Awstria’n bygwth cyflwyno cyfyngiadau ar y rhai sydd heb eu brechu yn erbyn Covid-19 pe bai achosion yn parhau i gynyddu.

Daw’r rhybudd gan Alexander Schallenberg ar ôl iddo fod yn cyfarfod ag arweinwyr rhanbarthol yn y wlad.

Mae’n dweud y bydd mynediad i fwytai, gwestai a busnesau tebyg yn cael ei atal i bobol sydd heb dderbyn brechlyn pe bai 500 o bobol â Covid-19 mewn unedau gofal dwys – neu’n cymryd 25% o gapasiti unedau gofal dwys y wlad.

Pe bai’r nifer yn cyrraedd 600, neu draean o’r capasiti, yna mae’r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno cyfyngiadau pellach ar bobol sydd heb eu brechu.

O dan yr amgylchiadau hynny, byddai’r llywodraeth yn amlinellu’r amgylchiadau pan fyddai gan bobol heb eu brechu yr hawl i adael eu cartrefi.

Ar hyn o bryd, mae 220 o gleifion Covid-19 mewn unedau gofal dwys.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, fe fu 20,408 o achosion newydd o’r feirws yn Awstria, sy’n dod â’r cyfartaledd ar gyfer yr wythnos i 228.5 o achosion ym mhob 100,000 o’r boblogaeth.

Yr wythnos flaenorol, 152.5 oedd y gyfradd.

Fe fu llai o bobol yn cael eu brechu yn y wlad dros y misoedd diwethaf, er gwaethaf rhybuddion y llywodraeth.

Mae oddeutu 65.4% o’r boblogaeth bellach wedi derbyn un dos, tra bod 62.2% wedi’u brechu’n llawn.

“Dydy’r pandemig ddim eto yn y drych ôl,” meddai Alexander Schallenberg.

“Rydyn ni ar fin baglu i mewn i bandemig y rhai sydd heb eu brechu.”