Fe fydd Cymru’n elwa o gynllun i roi pwerau i feiri dinasoedd a rhanbarthau i wella cysylltiadau trafnidiaeth.

Mae disgwyl i Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, neilltuo bron i £7bn i ardaloedd megis Manceinion Fwyaf, Gorllewin Canolbarth Lloegr a De Swydd Efrog i gyflwyno gwelliannau i is-adeiledd, prisiau tocynnau a gwasanaethau trafnidiaeth.

Fel rhan o’r cynllun, fe fydd y llywodraethau datganoledig, gan gynnwys Cymru, yn derbyn eu siâr o’r arian trwy Fformiwla Barnett.

Fe fu Andy Burnham, Maer Manceinion Fwyaf, yn lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig am yr arian ers tro, a hynny er mwyn cyflwyno system drafnidiaeth debyg i’r hyn sydd ar waith eisoes yn Llundain.

Fe fu’n galw am £1bn, gan bwyso ar weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion ddechrau’r mis hwn.

Daeth cadarnhad bellach y bydd yr ardal yn derbyn £1.07bn wrth i’r Canghellor gyhoeddi ei Gyllideb ac adolygiad gwariant yr wythnos nesaf.

Bydd Gorllewin Swydd Efrog yn derbyn £830m, De Swydd Efrog £570m, Gorllewin Canolbarth Lloegr £1.05bn, Dyffryn Tees £310m, Gorllewin Lloegr £540m a Lerpwl £710m.

Bydd rhyw £5.7bn yn setliadau trafnidiaeth ar gyfer y rhanbarthau, tra bydd £1.2bn o arian newydd yn mynd tuag at wella gwasanaethau bysiau i sicrhau amserau teithio, prisiau a nifer gwasanaethau sy’n cymharu’n ffafriol â’r hyn sydd ar gael yn Llundain.

O ganlyniad i’r cyllid, bydd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn cael swm o gyllid fydd yn cael ei gyfrifo trwy Fformiwla Barnett.