Mae’r plismon sydd wedi’i benodi’n Brif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod cyfeirio at gyffuriau fel “problem cyfiawnder troseddol” yn “annefnyddiol os nad yn wrthgynhyrchiol”.
Daw sylwadau Richard Lewis, sy’n Brif Gwnstabl Heddlu Cleveland ar hyn o bryd, mewn erthygl yn y papur newydd The Guardian wrth iddo egluro iddo ddod i’r casgliad hwn dros gyfnod o 21 o flynyddoedd yn gweithio i’r heddlu.
“Mae’r epidemig cenedlaethol hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus,” meddai yn ei erthygl sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 23).
Os yw’n broblem, meddai, yna “problem wleidyddol” yw hi a hynny am fod “dechrau sgwrs ar bolisi cyffuriau” yn anodd “pan gaiff pleidleisiau eu hennill yn aml drwy fod yn gadarn o ran torcyfraith”.
Mae’n dweud ei fod yn “cytuno â’r ymdeimlad” ond fod “gwahanol ffyrdd o gyflawni hyn”.
“Gall stopio a chwilio gael effaith a sicrhau bod pobol fregus yn cael eu diogelu,” meddai.
“Yn yr un modd, gall cau ffermydd canabis lwyddo: nid yn unig y caiff cyffuriau eu cipio ac aelodau gangiau eu carcharu, ond rydym yn diogelu’r rhai sy’n cael eu gadael ar ôl i “ffermio” y canabis sy’n aml yn cael eu masnachu i mewn i’r Deyrnas Unedig.
“Fodd bynnag, mae gweithio fel asiantaeth unigol wedi cael ychydig iawn o effaith ar y broblem ar y cyfan.
“Mae cynhyrchu heroin yn Affganistan a chocên yn Ne America wedi cynyddu; mae gweithgarwch troseddau wedi’u trefnu a thrais wedi cyrraedd ei lefelau uchaf erioed; ac mae marwolaethau’n parhau i gynyddu.”
‘Newid dulliau’
Yn ôl Richard Lewis, rhaid newid y dulliau o fynd i’r afael â chyffuriau os ydyn nhw am gael effaith.
“Mae ymateb y llywodraeth i adolygiad cyffuriau annibynnol Carol Black yn cynnig uned cyffuriau traws-adrannol ac ailfuddsoddi mewn gwasanaethau triniaeth a gafodd eu torri yn ystod y blynyddoedd llymder,” meddai wedyn.
“Mae’r ailfuddsoddi yn enwedig yn argymhelliad i’w groesawu ac yn rhagofyniad ar gyfer lleihau marwolaethau.
“Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi gadael i’r neges fod cyffuriau’n ddrwg (mi ydyn nhw) i gael ei chyfuno â [neges fod] rhai sy’n gaeth eu hunain yn ddrwg, yn syml am eu bod yn defnyddio cyffuriau.
“Gadewch i mi fod yn glir: mae rhai o’r gweithredoedd mwyaf ffiaidd a mileinig y des i ar eu traws yn ystod fy ngwasanaeth heddlu wedi’u cyflawni gan y rhai sy’n gaeth; ond nid yw hyn yn wir drwyddi draw.
“Mae nifer… wedi gwneud penderfyniadau drwg yn eu bywydau.”