Mae Rishi Sunak wedi ceisio sicrhau aelodau seneddol Ceidwadol ei fod yn anelu i dorri trethi cyn yr etholiad nesaf.

Daw hyn ar ôl iddo gyhoeddi Cyllideb sy’n cynyddu treth a gwariant i lefelau sydd heb eu gweld ers degawdau.

Cyhoeddodd y Canghellor £150bn o wariant adrannol yn ogystal â chymorth i bobol ar incwm isel i fynd i’r afael â chostau byw cynyddol.

Cyhoeddodd doriadau treth i fusnesau, arian ychwanegol i ysbytai, lliniaru’r toriad i Gredyd Cynhwysol a rhewi’r dreth tanwydd wrth i’r genedl wella o bandemig Covid-19.

Ond ar ben y cynnydd a gafodd ei gyhoeddi eisoes mewn trethiant corfforaethol a phersonol, dywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) y byddai’r Gyllideb yn gadael y baich treth gyffredinol ar ei huchaf ers yr adeg pan oedd Clement Attlee yn Brif Weinidog ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd y rhagolygon economaidd hefyd y bydd y cynlluniau’n mynd â gwariant cyhoeddus i’r gyfran uchaf o’r economi ers diwedd y 1970au, cyn i Margaret Thatcher ddod i rym.

Mewn ymgais i dawelu meddyliau’r Ceidwadwyr nerfus, dywedodd Rishi Sunak wrth Dŷ’r Cyffredin, “Erbyn diwedd y Senedd hon, rwyf am i drethi fod yn mynd i lawr nid i fyny”.

Uchafbwyntiau’r Gyllideb

Roedd y cyhoeddiadau allweddol yn y Gyllideb yn cynnwys:

– Pecyn £2.2bn o ddiwygiadau Credyd Cynhwysol i ganiatáu i hawlwyr gadw mwy o’r budd-dal os ydynt yn ennill mwy o waith.

– Gwerth tua £7bn o doriadau i ardrethi busnes yn dilyn adolygiad i’r dreth eiddo.

– Ailwampio trethiant alcohol yn sylweddol, gan gynnwys torri cost Champagne a prosecco.

– Bydd tafarndai’n cael cymorth gyda chyfradd is newydd o ddyletswydd ar gynhyrchion drafftiau, gan dorri tua 3c oddi ar bris beint fel rhan o’r diwygiadau.

– Bydd codiadau a gafodd eu cyhoeddi yn flaenorol mewn trethi alcohol a thanwydd hefyd yn cael eu dileu.

– Toriad yn y gordal sy’n cael ei godi ar elw banc o 8% i 3%.

– Bydd teithiau hedfan rhwng meysydd awyr yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn destun cyfradd is newydd o Doll Teithwyr Awyr o fis Ebrill 2023.

Cyllideb: £2.5 biliwn ychwanegol i Gymru

Jacob Morris

Yn ei ail gyllideb ers y pandemig, dywedodd Rishi Sunak ei fod yn addo “economi cryfach y dyfodol” mewn “oes o optimistiaeth”

“Cyllideb i Loegr oedd hon, oedd yn edrych yn dda ar bapur yn unig” medd yr economegydd Dr John Ball

Jacob Morris

“Mae’n gyllideb or-optimistaidd gan ystyried ein bod yn dal yn cripian allan o bandemig”

Cyllideb: Cyhoeddiad yn “risg mawr i’r Canghellor,” medd yr economegydd Dr Edward Jones

Gwern ab Arwel

“I fod yn onest, y teimlad ydy bod o ond yn dadwneud y cyni oedd yna o dan David Cameron a George Osborne”