Mae’r Unol Daleithiau wedi cyhoeddi eu pasbort cyntaf gyda’r dynodiad rhyw “X”, gan nodi carreg filltir i gydnabod hawliau pobol anneuaidd – rhai sy’n nodi nad ydyn nhw’n ddyn nac yn fenyw.

Dydy Adran Gwladwriaeth yr Unol Daleithiau ddim wedi cyhoeddi enw’r sawl sy’n derbyn y pasbort, ond dywedodd Dana Zzyym o Fort Collins, Colorado, mewn cyfweliad dros y ffôn mai eu pasbort nhw oedd e.

Mae Dana Zzyym, sy’n defnyddio rhagenw niwtral, wedi bod mewn brwydr gyfreithiol gyda’r llywodraeth dros basbort ers 2015.

Dywed fod y frwydr dros y pasbort gyda’r dynodiad cywir o ran rhyw yn ffordd o helpu’r genhedlaeth nesaf o bobol anneuaidd i ennill cydnabyddiaeth fel dinasyddion llawn sydd â hawliau.

“Dydw i ddim yn broblem. Dw i’n berson. Dyna’r pwynt,” meddai Dana Zzyym.

‘Urddas’

Dywed Jessica Stern, cennad diplomyddol arbennig yr Unol Daleithiau ar gyfer hawliau LGBTQ, fod y penderfyniad yn sicrhau bod dogfennau’r llywodraeth yn unol â’r “realiti byw” fod sbectrwm ehangach o nodweddion rhyw nag sydd wedi’i adlewyrchu yn y ddau ddynodiad blaenorol.

“Pan fydd person yn cael dogfennau adnabod sy’n adlewyrchu eu gwir hunaniaeth, maen nhw’n byw gyda mwy o urddas a pharch,” meddai.

Gwrthodwyd pasbort i Dana Zzyym am fethu â dweud a oedd yn wryw neu fenyw ar gais.

Yn ôl dogfennau’r llys, ysgrifennodd “rhyngrywiol” uwchben y blychau “M” ac “F”, a gofynnodd mewn llythyr ar wahân am gael nodi “X” yn lle hynny.

Cafodd Dana Zzyym eu geni gyda nodweddion corfforol a rhywiol amwys, ond cawson nhw eu magu fel bachgen a chafodd sawl triniaeth a fethodd â gwneud i Zzyym ymddangos yn gwbl wrywaidd.

Gwasanaethon nhw yn y Llynges fel dyn ond yn ddiweddarach, daethon nhw i nodi eu bod yn rhyngrywiol tra’n gweithio ac yn astudio ym Mhrifysgol Colorado.

Roedd y ffaith i Adran y Wladwriaeth eu hatal nhw rhag cael pasbort wedi atal Dana Zzyym rhag gallu teithio i gyfarfod y Sefydliad Rhyngrywiol Rhyngwladol ym Mecsico.

Dywedodd yr adran ym mis Mehefin eu bod yn symud tuag at ychwanegu trydydd rhyw.

Mae’r Unol Daleithiau’n ymuno â llond llaw o wledydd, gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, Nepal a Chanada, i ganiatáu i’w dinasyddion ddynodi rhyw ar wahân i ddyn neu fenyw ar basbortau.