Mae cyfraddau Covid-19 yng Ngheredigion wedi cynyddu i’w lefel uchaf ers dechrau’r pandemig.

Yn ystod y saith diwrnod diwethaf, roedd 464 o achosion positif wedi eu hadrodd yn y sir, ac mae’r cyfraddau presennol yn dangos bod 656.2 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth wedi dal y feirws.

Mae’r gyfradd yng nghymunedau Borth a Bontgoch wedi codi i 1155.9 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth, ac mae De Aberystwyth hefyd yn uwch na chyfartaledd y sir, ar 851.6 ym mhob 100,000 o’r boblogaeth.

Cadw’n ddiogel

Oherwydd y niferoedd pryderus, mae Cyngor Ceredigion yn annog trigolion i gadw at y canllawiau sylfaenol.

“Drwy gymryd cyfrifoldeb personol, gallwn amddiffyn ein gilydd,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Gyda’r gaeaf ar droed a’r tymheredd yn gostwng, bydd yn fwy tebygol y bydd pobol yn dymuno cwrdd dan do gyda theulu a ffrindiau.

“Cofiwch po fwyaf o bobol y byddwch yn cwrdd mewn cyswllt agos â nhw, y mwyaf o siawns sydd o ddal a lledaenu’r feirws.

“Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.”

Brechlyn

Mae’r Cyngor hefyd yn hysbysu pawb sydd heb wneud hynny i drefnu apwyntiad am frechlyn Covid-19.

Y brechlyn yw’r amddiffyniad gorau yn erbyn y feirws,” meddai’r llefarydd.

“Rhaid i chi gadw at y canllawiau sylfaenol hyd yn oed os ydych wedi derbyn y ddau ddôs a phigiad atgyfnerthu’r brechlyn Coronafeirws.

“Rhaid inni gofio nad yw’r brechlyn yn darparu amddiffyniad llwyr.

“Fodd bynnag, mae wedi lleihau nifer cyffredinol y derbyniadau i’r ysbyty.”