Mae dyfodol cerflun Henry Morton Stanley yn Ninbych am gael ei benderfynu mewn pleidlais gyhoeddus y penwythnos hwn.

Cafodd y cerflun o’r fforiwr ei gomisiynu dros ddegawd yn ôl, gyda’r artist o’r gogledd, Nick Elphick, yn ei greu.

Yn ddiweddarach, mae cysylltiad Stanley ag imperialaeth Ewropeaidd wedi sbarduno protestiadau yn ei gylch, ac yn dilyn hynny, fe wnaeth Cyngor Tref Dinbych ddechrau trafod dyfodol y cerflun o fis Mehefin 2020 ymlaen.

Fe bleidleisiodd aelodau i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn gweld a ddylid ei symud o’r neilltu, ond fe gafodd hwnnw ei ohirio oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.

Bydd y bleidlais nawr yn digwydd ddydd Gwener a dydd Sadwrn yma (15 a 16 Hydref).

“Cadw’n niwtral”

Roedd Rhys Thomas, cadeirydd Cyngor Tref Dinbych, yn awyddus i gadw allan o’r mater.

“Rwy’n gadeirydd ar y cyngor, ac mae angen i mi gadw’n niwtral ar hyn i gyd,” meddai.

“Rwy’n credu ei fod wedi bod cael cryn sylw ar Facebook, ond dyna ni.

“Mae’n rhywbeth y mae gan ychydig o bobol ddiddordeb ynddo ar y naill ochr neu’r llall.”

Hollti barn

Dywedodd ei gyd-gynghorydd, Glen Swingler, bod teimladau yn y dref yn “gymysg iawn.”

“Rydw i wedi sylwi ar y cyfryngau cymdeithasol dros yr ychydig ddyddiau diwethaf bod y rhai sy’n dod allan yn ei erbyn, ychydig yn fwy uchelgeisiol,” meddai.

“Dydy hi ddim yn mynd yn gas. Wel, rydych chi bob amser yn cael un neu ddau, ond dyna gyfryngau cymdeithasol i chi, ond mae yna wahanol safbwyntiau arno.

“Fyswn i ddim yn hoffi dyfalu i ba ffordd y byddai unrhyw fath o bleidlais yn mynd, ond eto, mae’n dibynnu faint o bobl sy’n mynd i fynd allan i bleidleisio.

“Bydda i yn pleidleisio. Mae gen i fy marn fy hun, a bydda i’n pleidleisio gan mai dyna fy hawl.”

Rhoi “fforiwr mwyaf Affrica” yn y glorian

Howard Huws

Y penwythnos hwn fe fydd Cyngor Tref Dinbych yn cynnal pleidlais ar ddyfodol y cerflun o HM Stanley sydd ar y Stryd Fawr yno

Cefndir

Cafodd Henry Morton Stanley ei eni fel John Rowlands yn Ninbych yn 1841,

Yn blentyn, cafodd ei yrru i wyrcws Llanelwy, cyn mudo i’r Unol Daleithiau yn ei arddegau, gan frwydro yn Rhyfel Cartref America.

Daeth yn newyddiadurwr a fforiwr yn hwyrach ymlaen, gan archwilio rhai o ranbarthoedd cuddiedig Affrica.

Bryd hynny, fe ddaeth yn enwog am ddweud y llinell “Dr Livingstone, dw i’n tybio,” ar ôl dod ar draws y fforiwr arall o’r Alban, a oedd wedi bod ar goll yng nghanol y cyfandir.

Ond mae cysylltiadau Stanley gyda Leopold II wedi ei wneud yn ffigwr dadleuol, gan fod y brenin o Wlad Belg wedi cyflawni gweithredoedd echrydus yn erbyn pobol y Congo – gallwch ddarllen mwy yn Golwg yr wythnos hon, uchod.

Y bleidlais

Mae’r bleidlais yn digwydd ddydd Gwener, 15 Hydref, rhwng 10yb a 7yh, a dydd Sadwrn, 16 Hydref, rhwng 10yb ac 1yh yn Neuadd y Dref.

Bydd pob un o drigolion Dinbych dros 16 yn cael pleidleisio, a bydd rhaid dod â dau gerdyn adnabod – un gyda llun ac un gyda chyfeiriad.

Gallwch ddarllen sylwadau un hanesydd mewn sgwrs â golwg360 ar y cerflun dadleuol isod.

‘Efallai mai’r lle gorau i gerflun HM Stanley fyddai mewn amgueddfa,’ medd un hanesydd

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol cerflun HM Stanley yn Ninbych yn cael ei gynnal yn yr hydref