Y penwythnos hwn fe fydd Cyngor Tref Dinbych yn cynnal pleidlais ar ddyfodol y cerflun o HM Stanley sydd ar y Stryd Fawr yno.

Fe gafodd y fforiwr dadleuol ei eni yn y dref yn 1841, a threulio’i blentyndod yn Nhloty Llanelwy, cyn dod yn un o ddynion enwoca’i gyfnod.