Deffro yn y nos, methu mynd nôl i gysgu, mynd yn dwym iawn yn sydyn, yn fyr o amynedd, teimlo bo chi’n colli arni, yn anghofio pethau… ydy hyn yn swnio’n gyfarwydd i chi fenywod dros eich 40au?

Mae’r gyflwynwraig Dot Davies yn rhannu ei phrofiadau hi am effaith y peri-menopos ar ei bywyd ac yn gobeithio chwalu’r stigma o amgylch y pwnc…