Mae Prif Weinidog Cymru wedi newid ei ddolen Twitter o @fmwales i @PrifWeinidog.
Fe wnaeth Mark Drakeford y newid i’r cyfrif, sydd â dilyniant o dros 125,000, yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae hyn yn ymdrech i “arddangos ein hiaith i gynulleidfa fyd-eang”,
Dywedodd yr arbenigwr ar y cyfryngau cymdeithasol, Owen Williams fod hyn yn “newid bwriadol sydd wedi ei gynllunio gan swyddfa Mark Drakeford.”
“Mae newid dolen Twitter, fel cyfrif wedi’i ddilysu, yn gofyn am drafodaeth gyda Twitter i sicrhau nad yw’r tic glas wedi’i ddilysu yn cael ei golli,” meddai.
Normaleiddio
“Mae’n gam sylweddol heb ddefnyddio ‘Prif Weinidog Cymru’ ond yn hytrach ‘Prif Weinidog’, sy’n derm rydyn ni’n fwy cyfarwydd yn ei ddefnyddio gyda Boris Johnson.”
Ychwanegodd Mr Williams, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Siml y byddai’n gamgymeriad pe na fyddai Llywodraeth Cymru yn dal gafael ar yr hen gyfrif @fmwales oherwydd “fel arall, ar ôl cyfnod gras, gallai unrhyw un gymryd rheolaeth o’r cyfrif”.
Croesawu
Dywedodd Siân Gwenllian, llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg: “Mae pob symudiad i normaleiddio’r Gymraeg i’w groesawu. Fe ddylai Llywodraeth Cymru wneud llawer mwy i hyrwyddo’r Gymraeg a chynyddu nifer y siaradwyr.”
Mae rhan fwyaf o gyfrifon Twitter Llywodraeth Cymru ar wahân yn Gymraeg a Saesneg – er enghraifft, @LlywodraethCym a @WelshGovernment; @LlCIechydaGofal a @WGHealthandCare – ond mae trydariadau’r prif weinidog fel arfer yn Gymraeg a Saesneg bob yn ail.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Nid oedd y ddolen Twitter flaenorol (@fmwales) yn ddwyieithog felly rydym wedi troi hon drosodd i gydymffurfio â gofynion o ran yr iaith Gymraeg.