Mae Ryan Reynolds a Rob McElhenney, y sêr Hollywood sydd wedi prynu Clwb Pêl-droed Wrecsam, yn dweud mai cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr yw eu nod hirdymor.

Roedden nhw ym Maidenhead yr wythnos hon i wylio’r tîm am y tro cyntaf, ac fe fyddan nhw yn y Cae Ras ar gyfer y gêm yn erbyn Torquay ddydd Sadwrn.

Ond heddiw (dydd Iau, Hydref 28), mae’r actorion byd-enwog wedi glanio yn y Cae Ras am y tro cyntaf erioed i gyfarfod â’r wasg.

Mae’r clwb wedi cael cryn sylw ledled y byd ers iddyn nhw ei brynu fis Ionawr.

Er mai ennill dyrchafiad i’r Gynghrair Bêl-droed yw eu nod ar gyfer y tymor hwn, a hwythau’n unfed ar ddeg yn y Gynghrair Genedlaethol ar hyn o bryd, dywed Ryan Reynolds fod yna “nod i’r clwb fydd yn cael ei adrodd am genedlaethau”.

Eglurodd Rob McElhenney eu bod nhw am weld Wrecsam yn dod yn “rym byd-eang” yn y byd pêl-droed, ond mae’n cydnabod fod ambell un “yn chwerthin am hynny” ond fod eraill wedi “cofleidio” y syniad.

Wrth drafod sefyllfa ariannol y clwb yng nghyd-destun yr arian mawr a gafodd ei wario gan gonsortiwm o Saudi Arabia i brynu Clwb Pêl-droed Newcastle, dywedodd McElhenney nad oes ganddo fe gyfrannau mewn olew, ac ychwanegodd Reynolds fod ganddo fe “olew olewydd gartref!”.

Roedd y ddau wedi buddsoddi £2m yn y clwb adeg ei brynu.

Mewn cynhadledd hwyliog, cyfaddefodd Reynolds nad yw e’n deall y rheol camsefyll ond ei fod yn dechrau dysgu mwy, ac y byddai’n hoffi gweld ei gyd-actor Will Ferrell yn ymweld â’r Cae Ras.

Llwyddodd McElhenney i ynganu Llanfairpwyllgwyngyllgogerychchwyrndrobwllllantysliogogogoch yn gywir.