Drideg mlynedd a mwy ers i Bryn Fôn gael ei arestio ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig â’r ymgyrch llosgi tai haf, bydd yn edrych yn ôl ar y profiad mewn rhaglen ar S4C.
Yn 1990, fe wnaeth y gân ‘Meibion y Fflam’ gan ei fand Sobin a’r Smaeliaid daro’r nodyn anghywir gyda’r heddlu.
Cafodd y gân ei hysbrydoli ar ôl i Bryn Fôn weld apêl am wybodaeth am yr ymgyrch llosgi tai haf ar raglen Crimewatch UK, ac roedd hi’n gwawdio’r diffyg cynnydd yn ymchwiliad yr heddlu.
Er i’r ymgyrch ddechrau yn 1979, aeth deng mlynedd heibio ers i’r heddlu arestio neb, nes iddyn nhw arestio Bryn Fôn yn 1990.
Roedd yn 35 oed ar y pryd, a chafodd y profiad effaith arno a’i deulu, meddai, er iddo gael ei ryddhau heb gyhuddiad yn y diwedd.
“Mae rhywun yn cysylltu tai haf a Meibion Glyndŵr efo Bryn Fôn – mae’r cysylltiad wedi ei wneud,” meddai’r canwr ar drothwy dangos y rhaglen.
“Mae’n siŵr bod yna bobl sydd hyd heddiw yn meddwl mod i wedi gwneud rhywbeth a ’mod i wedi dod allan ohoni rywsut – wedi cal ‘get awê’ efo’i os liciwch hi. Mae hynna’n rhywbeth dw i’n gorfod derbyn am wn i.”
Ar ôl pum diwrnod o gwestiynau yn 1990, cafodd Bryn Fôn ei ryddhau, ac er nad oedd yn aelod o Feibion Glyndŵr, roedd yn gefnogol o’r ymgyrch.
Cafodd 239 o dai haf eu difrodi yng Nghymru rhwng 1979 ac 1991, a 30 mlynedd wedyn mae Bryn Fôn yn mynd ati ar ei raglen i holi pwy oedd Meibion Glyndŵr mewn gwirionedd.
Bydd yn holi a oedd yna gelloedd o weithredwyr ar draws Cymru, neu ai’r gwasanaethau cudd oedd tu ôl i’r cyfan?
“Cyfnod anodd”
Yn y rhaglen, fydd ar S4C nos Iau, 25 Tachwedd, bydd y canwr yn holi rhai eraill a gafodd eu hamau, ac yn cwrdd â pherchennog tŷ haf gafodd ei losgi.
Am y tro cyntaf ers y diwrnod hwnnw yn 1990, bydd Bryn Fôn yn siarad â’r plisman wnaeth ei arestio hefyd.
Ni chafodd neb eu hanafu’n ystod yr ymgyrch, ond daw’n amlwg o’r rhaglen fod llawer wedi dioddef, gan gynnwys teulu Bryn Fôn.
“Roedd o’n gyfnod anodd iawn i fy mhartner Anna achos doedd hi ddim yn gwybod pwy i goelio, dim ots faint roeddwn i’n dweud bo fi ddim wedi gwneud,” meddai Bryn Fôn.
“Wedyn, roedd yna adeg lle doedda ni ddim fel tasa ni’n dod ymlaen cystal, roedd o wedi siglo’r berthynas.
“Mi wnaeth o’n sicr effeithio ar iechyd Mam a Dad – pobl gyffredin, dosbarth gweithiol oedd yn meddwl fod yr Heddlu wastad yn gywir, wastad yn gwneud y peth iawn a wastad yna i wasanaethu’r cyhoedd.
“Fasa nhw byth yn cwestiynu a oedd yr heddlu yn gallu gwneud unrhyw beth allan o’i le. Ac yn sydyn roedd hyn i gyd – ac wrth gwrs, fyswn i ni’n meddwl bod nhw’n amau mod i wedi gwneud.”
Er mwyn ceisio darganfod a fyddai dewisiadau a gweithredoedd yr ymgyrch yn wahanol heddiw, bydd Bryn Fôn yn holi’r unig berson sydd wedi’i garcharu am weithredu yn enw Meibion Glyndŵr, Siôn Aubrey Roberts.
Fe fydd y rhaglen yn gofyn be gafodd ei ddysgu gan yr ymgyrch, yn enwedig o ystyried sefyllfa’r farchnad dai ar hyn o bryd, gan gwestiynau yntau arwyr neu derfysgwyr oedd yr ymgyrchwyr.
Wrth i brisiau tai barhau i gynyddu, a chryn drafod ar y sefyllfa gydag ail dai a llety gwyliau, bydd y rhaglen yn holi ai ofer oedd y frwydr?
- Bydd Bryn Fôn – Chwilio am Feibion Glyndŵr ar S4C, nos Iau, 25 Tachwedd am naw