Mae dyn 32 oed wedi cael ei garcharu am o leiaf 30 mlynedd am lofruddio merch 16 oed mewn siop tecawê Tsieineaidd.

Cafwyd Chun Xu yn euog o dagu Wenjing Lin i farwolaeth yn siop tecawê Blue Sky yn Ynyswen, Treorci, Rhondda Cynon Taf ar 5 Mawrth.

Dyfarnwyd ei fod hefyd yn euog o geisio llofruddio Yongquan Jiang, llystad Wenjing Lin, yn ystod achos yn Llys y Goron Merthyr Tudful.

Cafodd ei ddedfrydu i fywyd dan glo a bydd yn y carchar am o leiaf 30 mlynedd.

Yn ystod yr achos llys disgrifiodd mam Wenjing ei hunig blentyn fel “enaid addfwyn a thawel”, a oedd yn gwneud yn dda yn yr ysgol ac yn helpu gyda busnes y teulu.

Ar fore ei marwolaeth, roedd Wenjing yn paratoi ar gyfer yr ysgol, gan anfon negeseuon i’w ffrindiau ar Snapchat ac eisoes wedi mewngofnodi ar gyfer gwers fathemateg.

Fe wnaeth Wenjing anfon ei neges olaf ychydig cyn 09:30 ac ni wnaeth ymateb i negeseuon ar ôl hynny oherwydd “ei bod hi bellach wedi cael ei lladd gan y diffynnydd”, meddai’r erlynydd Michael Jones QC wrth y llys.

Ffrind agos i’r teulu

Clywodd y llys fod Chun Xu yn cael ei ystyried yn ffrind agos i’r teulu a’i fod eisiau “dial” ar fam Wenjing.

Roedd anghydfod wedi bodoli rhyngddo efo a theulu Wenjing Lin gan ei fod yn gamblwr trwm ac roedd arno £14,000 i deulu Wenjing Lin

Awr cyn i Wenjing gael ei lladd, clywodd y llys fod Xu wedi defnyddio’r we i ofyn “a all olion bysedd gael eu dinistrio gan dân?”

Tagodd Wenjing Lin tra yr oedd ei rhieni yn cysgu gerllaw.

Yna, denodd ei llystad i lawr isaf y bwyty tecawê a’i drywanu droeon gyda dwy gyllell cyn ceisio lladd ei hun drwy dorri ei wddf.

Cafodd corff marw Wenjing Lin ei ddarganfod ar fat du ger y cownter tecawê.

“Dial”

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC wrth Chun Xu: “Fe wnaethoch chi lofruddio merch 16 oed er mwyn dial ar ei mam.

“Byddwch yn eich 60au cyn y gallwch hyd yn oed wneud cais i gael eich rhyddhau.

“Bydd hynny yn y flwyddyn 2051.

“Efallai na fyddwch byth yn gadael y carchar os nad yw’n cael ei ystyried yn ddiogel ac yn briodol i’ch rhyddhau.”

“Dal i wneud paned o de iddi bob nos”

Dywedodd mam Wenjing Lin, Meifang Xu, wrth y llys: “Bob bore rwy’n dal i ddeffro a gwneud ei brecwast.

“Rwy’n dal i wneud paned o de iddi bob nos a’i rhoi yn ei hystafell wely wag”.