Mae cynghorwyr Gwynedd wedi cefnogi cynllun “arloesol” i ddarparu gliniaduron i holl ddisgyblion uwchradd ysgolion y sir, a rhai o ddisgyblion hŷn yr ysgolion cynradd.

Fe ddaeth y cynllun i fodolaeth yn rhannol oherwydd y pandemig covid, ac mi fydd peth o’r £5 miliwn i dalu am y gliniaduron yn dod o goffrau Llywodraeth Cymru.

Bydd holl ddisgyblion y sir, waeth beth yw maint cyfoeth eu rhieni a’u teuluoedd, yn cael gliniadur yn eu blynyddoedd olaf yn yr ysgol gynradd.

Golyga hyn y bydd plant oed blwyddyn 5 yr ysgolion cynradd yn derbyn gliniaduron, gan eu dychwelyd i’r cyngor sir pan fyddan nhw yn gorffen yn yr ysgol uwchradd.

Bydd plant oedrannau llai’r ysgolion cynradd yn derbyn iPads i’w rhannu rhwng pedwar, a fydd ddim yn gadael tir yr ysgolion.

Ac mi fydd 1,100 o athrawon y sir yn derbyn gliniaduron i’w galluogi i weithio o adref.

Yn ogystal â galluogi plant i fedru cael eu haddysgu gartref, mae pwyslais cynyddol y cwricwlwm Cymreig ar sgiliau digidol yn ffactor tros

“Arloesi”

Mae Pennaeth Addysg Gwynedd wedi dweud bod y cynllun yn “arloesol”.

“Os ddysgon ni unrhyw beth o’r gwahanol gyfnodau dan glo, fe ddysgon ni pa mor bwysig ydy hi fod plant yn cael mynediad i dechnoleg ac yn gallu ei ddefnyddio yn hyderus,” meddai Garem Jackson.

“Yn eironig, fe gafodd y cynlllun ei ffurfio cyn [y pandemig] ond rydym wedi dysgu cymaint yn y cyfamser ac mae hynny wedi rhoi hwb i’r broses.

“Mae yna gynllun uchelgeisiol, ac nid wyf yn gwybod am unrhyw gyngor sir arall yng Nghymru sy’n bwriadu gwneud hyn, ond mae yna agweddau difyr iawn.”