Mae 94% o weithwyr y wlad yn poeni am arian wrth i gostau byw gynyddu, yn ôl ymchwil gan y TUC.
Dangosa’r ymchwil bod 77% o’r gweithwyr yn mynd â’u pryderon gyda nhw i’r gwaith, a bod hynny’n effeithio ar eu hapusrwydd a pha mor gynhyrchiol ydyn nhw.
Mae TUC Cymru, sy’n cynrychioli nifer o undebau llafur a 400,000 o weithwyr, yn galw ar gyflogwyr i wneud mwy i helpu staff wrth fynd i’r afael â phryderon am arian.
Nod TUC Cymru yw gwella amodau economaidd a chymdeithasol gweithwyr yng Nghymru, a nawr maen nhw’n galw am weithredu ar dâl annheg, am well mynediad at raglenni cynilo drwy gyflogresi, ac yn galw ar gyflogwyr i sefydlu polisïau llesiant ariannol.
Yn ôl y corff, gallai’r mesurau hyn arwain at weithwyr yn bod yn fwy agored ynghylch materion ariannol.
Galwadau
Daw’r galwadau fel rhan o ‘Wythnos Siarad Arian’, ymgyrch flynyddol gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau i godi ymwybyddiaeth ac annog pawb i siarad yn agored am eu harian a’u pensiynau.
Amcan yr wythnos yw lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â siarad am arian drwy annog sgyrsiau ymysg teuluoedd, ffrindiau, cymdogion, cyd-weithwyr, a chymunedau.
Dangosa ymchwil gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Personél a Datblygiad bod gan lai na hanner cyflogwyr y Deyrnas Unedig (49%) bolisïau llesiant ariannol.
Mae TUC Cymru yn galw ar gyflogwyr i gydweithio gydag undebau llafur er mwyn sefydlu polisïau llesiant ariannol newydd.
Maen nhw hefyd am weld cyfreithiau i fynd i’r afael â chyflogwyr sy’n tan-dalu eu gweithwyr, yn cael eu gorfodi’n llymach.
“Dechrau siarad am arian”
Dywedodd Kevin Williams o TUC Cymru: “Gyda chostau byw yn cynyddu, effaith barhaus pandemig Covid, a’r toriadau diweddar i Gredyd Cynhwysol, mae nawr yn amser hanfodol i bawb ddechrau siarad am reoli arian ar lefel ddomestig, fel bod teuluoedd yn gallu cwffio’n ôl yn erbyn y caledi mae cymaint o bobol wedi’i brofi dros y deunaw mis diwethaf.
“Rydyn ni angen i gyflogwyr gamu i’r adwy a rhoi’r cymorth sydd ei angen i weithwyr sy’n ei chael hi’n anodd.
“Ac rydyn ni angen i’r llywodraeth weithredu pan mae cyflogwyr yn trio ecsbloetio gweithwyr sydd mewn trybini ariannol.”
“Torri’r tabŵ”
Dywedodd Caroline Siarkiewicz, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Arian a Phensiynau: “Wrth i ni barhau i ymateb i heriau pandemig Covid-19, mae llesiant ariannol yn parhau i fod yn allweddol i adferiad y Deyrnas Unedig: mae cenedl ariannol iach yn dda i unigolion, cymunedau, busnes, a’r economi.
“Mae Wythnos Siarad Arian yn cynnig cyfle allweddol i’r genedl dorri’r tabŵ o drafod arian a chyllid.
“Rydyn ni’n falch o weld cymaint o sefydliadau’n annog trafodaethau am arian – o arian poced i bensiynau – er mwyn helpu pobol dros y wlad i wneud penderfyniad mwy cadarnhaol a gwybodus am eu harian.”