Mae Nicola Sturgeon wedi galw ar Boris Johnson i ddychwelyd i COP26 er mwyn helpu i wthio’r byd ar drywydd “lle gallwn osgoi trychineb hinsawdd”.

Wrth i’r trafodaethau yng Nglasgow dynnu tua’r terfyn heddiw (12 Tachwedd), mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud y dylai Boris Johnson ddefnyddio ei safle i “yrru cynnydd a gwthio pobol mor bell ag y gallwn ni”.

Aeth y trafodaethau yn eu blaenau drwy’r nos, a chafodd drafft newydd o’r cytundeb ei greu fore heddiw.

Mae disgwyl i’r trafodaethau ddod i ben am chwech heno, ond mae’n debyg y bydden nhw’n parhau i drafod wedi hynny.

Ddydd Mercher (10 Tachwedd), fe wnaeth Boris Johnson ymweld â’r gynhadledd gan annog arweinwyr i beidio eistedd ar eu dwylo wrth i’r byd ofyn iddyn nhw weithredu.

“Dewch yn ôl”

Wrth siarad â BBC Breakfast, dywedodd Nicola Sturgeon mai ei neges i’r Prif Weinidog yw “dewch yn ôl i fan hyn”.

“Defnyddiwch eich safle fel llywydd y COP hwn i yrru cynnydd a gwthio pobol mor bell ag y gallwn ni,” meddai.

“Oherwydd mae pob modfedd y mae’r ddogfen hon yn ei chymryd yn ei blaen, yn fodfedd arall tuag at roi’r byd ar drywydd lle gallwn osgoi trychineb hinsawdd, a does dim byd, yn llythrennol dim byd, yn bwysicach na hynny.

“Y rheswm mod i’n cyfeirio at Boris Johnson yn benodol, nid yn unig oherwydd ein bod ni yn y Deyrnas Unedig – wel, â dweud y gwir [dw i’n gwneud hynny] oherwydd ein bod ni yn y Deyrnas Unedig, oherwydd mai’r Deyrnas Unedig yw llywydd COP, ac mae hynny’n rhoi cyfrifoldeb penodol ar ysgwyddau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”

Dywedodd Nicola Sturgeon bod y drafft newydd “ychydig gwell”, ond bod “ffordd bell i fynd”.

“Ar yr ochr gadarnhaol, mae yna gydnabyddiaeth glir mai 1.5 gradd yw’r nod yn nhermau cyfyngu cynhesu byd-eang.

“Mae’n ymddangos bod yna symudiad ar arian addasu, mae yna eiriau am golled a difrod.

“Ar yr ochr negyddol, does yna ddim sôn am ymrwymiad o 100 biliwn o ddoleri (gan genhedloedd datblygedig i genhedloedd tlotach).

“Ac mae’r ffaith, er bod yna gydnabyddiaeth mai 1.5 gradd yw’r nod, rydyn ni ymhell o gwrdd â hynny, rydyn ni dal yn anelu tuag at gynhesu byd-eang o 2.4 gradd. Mae hynny’n gosb eithaf i sawl rhan o’r byd.”

Yn y cyfamser, dywedodd Nicola Sturgeon wrth Sky News na fyddai’n sioc pe bai COP26 yn cario ymlaen nes fory.

“Dw i’n sicr yn gobeithio bod gorffen am chwech heno, sef y cynllun, yn bosib,” meddai.

“Ond, byddwn i ddim yn cael sioc o wybod ei fod yn parhau nes fory. Dydi hynny ddim yn anarferol gyda COP.”

Ymgyrchwyr amgylcheddol o Gymru yn cywilyddio “rhai o droseddwyr hinsawdd gwaethaf y blaned”

“Her anferth o’n blaenau” yn dal i fod medd llywydd Cop26 ar ddiwrnod olaf y trafodaethau