Nod podlediad newydd Leanne Wood yw “ymdrin â materion nad oes digon o sylw iddynt yn y cyfryngau prif ffrwd ac yn rhoi llais i bobol nad ydym yn clywed digon ganddyn nhw”.
Mae’r podlediad, sy’n dod allan bob pythefnos, yn un gwleidyddol, ac mae Leanne Wood yn cael cwmni pobol sy’n gweithio dros newid gwleidyddol am tua ugain munud ymhob pennod.
Mae clip jazz electronig wedi cael ei gyfansoddi’n arbennig gan Lleuwen Steffan, er mwyn cyd-fynd â’r podlediad, ac mae Leanne Wood “wrth ei bodd” â’r darn.
Roedd dal hanfod y gwleidydd o’r Rhondda mewn clip 30 eiliad o gerddoriaeth yn “dipyn o her”, meddai’r canwr-gyfansoddwr Lleuwen Steffan.
“Fy her oedd dal Leanne Wood mewn 30 eiliad o sain! Arbrofol ond yn hygyrch. Hwyliog ond dim lol!” meddai Leanne Wood.
“Mae hi wrth ei bodd â jazz ond dwi ddim yn clywed nostalgia ynddi felly mi wnes i ‘stumio rhai elfennau jazz efo rhywfaint o bethau electronig rydw i wedi bod yn gweithio arnyn nhw.
“Dwi wedi dilyn ei gyrfa wleidyddol ers degawdau a bob amser wedi ei hystyried yn ymgyrchydd yn bennaf.
“Mae’r podlediad hwn yn barhad o’i gwaith ac mae mor gyffrous gweld ei llais yn cyrraedd mwy o bobl trwy’r podlediad. Mae ei gwaith yn parhau i ysbrydoli eraill i gredu yn y newid rydan ni i gyd yn dyheu amdano. ”
“Rhoi llais”
Mae drwy bennod wedi’u rhyddhau’n barod – y gyntaf gyda Mabli Siriol Jones, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, yn siarad am eu hymgyrch tai a digartrefedd, a’r ail gyda’r ymgyrchydd hawliau traws Crash Wigley.
Dywedodd Leanne Wood, a oedd yn Aelod o’r Senedd dros y Rhondda, ei bod hi wrth ei bod bodd “bod Lleuwen yn awyddus i’m helpu i gael rhywfaint o gerddoriaeth y byddai pobl yn ei chysylltu â phodlediad gwleidyddol sy’n ddifrifol, yn egnïol ac ychydig yn wahanol”.
“Mae hi wedi creu rhywbeth sy’n hollol berffaith.
“Rydw i’n gobeithio y bydd y podlediad yn ffynhonnell cynnwys amgen, yn ymdrin â materion nad oes digon o sylw iddynt yn y cyfryngau prif ffrwd ac yn rhoi llais i bobol nad ydym yn clywed digon ganddynt.”
“Archwilio materion cymhleth”
Bydd trydedd pennod y podlediad yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun (14 Tachwedd), ac yn edrych ar y ddeddfwriaeth newydd sy’n cael ei anelu at gyfyngu a lleihau mewnfudo.
Mae Leanne Wood yn gweld y podlediad fel parhad o’i hymdrechion i roi platfform i leisiau nad ydyn nhw’n cael eu clywed yn aml, ac i archwilio materion cymhleth mewn ffordd feddylgar ac agored – “rhywbeth sy’n aml yn mynd ar goll yn sŵn a thân yr arena wleidyddol”.
“Yn y bennod nesaf, rydw i’n trafod y ddeddfwriaeth newydd sy’n mynd trwy San Steffan a fydd yn gwrthdaro â hawliau ffoaduriaid,” meddai Leanne Wood.
“Mae’n dda cael y platfform hwn i siarad am faterion sy’n bwysig yn fy marn i, er bod canfod fy hun yn rôl yr holwr yn hytrach na’r un sy’n cael ei holi wedi gofyn am ychydig o addasu ar fy rhan, ac mae dysgu sgiliau golygu sain wedi bod yn her newydd ond yn un rwy wedi mwynhau yn arw.
“Mae cael y cyfle i weithio gyda phobl greadigol a thalentog fel Lleuwen yn gwneud menter fel hon yn fwy cyffrous byth.”
Mae’r podlediad ar gael ar Soundcloud, iTunes, cerddoriaeth Google, Audible, Spotify, YouTube a sianeli cyfryngau cymdeithasol Leanne Wood.