Mae Cyngor Gwynedd wedi brolio eu cynllun prentisiaeth gwerth £1 miliwn, ar ôl i ddeuddeg prentis dderbyn swyddi o fewn y sefydliad.

Yn eu plith, mae Swyddog Cyfathrebu a Marchnata, Technegydd ym maes Priffyrdd, Cynghorwyr Cwsmer, Cymorthyddion Adnoddau Dynol, Is-Arweinydd Ieuenctid a Chymhorthydd Gofal.

Hyd yma eleni, mae 30 prentis wedi eu penodi i weithio i’r awdurdod ac mae bwriad i gynnig swyddi i 20 o brentisiaid bob blwyddyn o hyn ymlaen.

Un o’r rhai sydd wedi derbyn swydd yn Gydlynydd Gofal Cymunedol i’r Cyngor yw Steffan William Chambers, 23, o Ddyffryn Ardudwy.

“Does dim dau ddiwrnod yr un fath yn y rôl,” meddai Steffan.

“Roeddwn i’n gweithio yng Nghaerfyrddin wedi gorffen fy ngradd yn y Brifysgol yn Aberystwyth, a phan welais yr hysbyseb am brentisiaethau gyda Chyngor Gwynedd, dyma fachu ar y cyfle i ymgeisio.

“Erbyn hyn, dw i’n astudio gradd meistr Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae hynny o ganlyniad i’r brentisiaeth dw i wedi ei chael gyda’r Cyngor.

“Gradd mewn Gwleidyddiaeth sydd gen i, felly mae cynllun prentisiaeth Gwynedd wedi rhoi’r cyfle i mi ddysgu ac arbenigo mewn maes cwbl wahanol.

“Dw i’n falch iawn o’r cyfle.”

“Arwain y ffordd”

Dywedodd y Cynghorydd sydd â’r cyfrifoldeb dros y cynllun, Nia Jeffreys o Borthmadog: “Dw i’n falch iawn o’r buddsoddiad mae’r Cyngor, dan arweiniad Plaid Cymru wedi ei roi i’r cynllun.

“Mae buddsoddiad o bron i £1miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer y cynllun prentisiaeth ac mae’n cynnig cyfle arbennig i drigolion Gwynedd dderbyn hyfforddiant a chyflog wrth ddysgu am eu swydd.

“Mae clywed hanes Steffan yn chwa o awyr iach a dw i’n ei longyfarch o a gweddill y prentisiaid ar eu camp.

“Mae’r Blaid yng Ngwynedd yn arwain y ffordd ym maes hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym yn ymfalchïo yn y cydweithio sy’n digwydd rhwng y Cyngor a’r colegau.

“Mae cynnig llwybr gyrfa a swyddi o safon i drigolion Gwynedd yn destun balchder mawr i mi a holl gynghorwyr y sir.”