Roedd tua mil o fudwyr wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig mewn diwrnod ar ôl peryglu eu bywydau wrth groesi’r Sianel mewn cychod bach.

Dyma’r nifer fwyaf erioed ers i’r argyfwng ddechrau.

Roedd merch ifanc ymhlith cannoedd o bobl gafodd eu cludo i borthladd Dofr yng Nghaint ar ôl cael eu hachub o’r môr ddoe (11 Tachwedd).

Roedd criwiau’r badau achub a chychod Patrol Ffiniau wedi gweithio am oriau wrth geisio achub pobl o’r cychod bach yn ystod y dydd.

Y nifer fwyaf i gael eu cofnodi yn ceisio croesi’r Sianel cyn hyn oedd 853 yn gynharach yn y mis.

Daw hyn er gwaetha marwolaeth dau berson wrth geisio croesi’r Sianel yn yr wythnosau diwethaf a llawer mwy ar goll.

Yn 2019, roedd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi rhoi addewid i geisio cyfyngu ar nifer y mudwyr oedd yn croesi’r Sianel erbyn y gwanwyn 2020, ac ym mis Awst y llynedd dywedodd y byddai am wneud y daith yn “anymarferol”.

Yn y cyfamser mae’r Llywodraeth wedi cytuno i dalu miliynau o bunnoedd i Ffrainc i wella diogelwch ar hyd yr arfordir gogleddol. Ond yn ôl y Times mae 2,000 o bobl wedi llwyddo i gyrraedd y DU mewn wythnos.