Mae gweithredwyr hinsawdd o Gymru wedi enwi a chywilyddio arweinwyr a dylanwadwyr maen nhw’n honni “sydd wedi dod â ni i’r trychineb hinsawdd hwn” yng Nglasgow ddoe (11 Tachwedd).
Gan wisgo masgiau enfawr, a oedd yn wawdluniau o “rai o droseddwyr hinsawdd gwaethaf y blaned”, bu aelodau o grwpiau Gwrthryfel Difodiant (XR) Aberteifi a Sir Benfro yn galw am weithredu.
Heddiw (12 Tachwedd) yw diwrnod olaf y trafodaethau yn Cop26, ac mae llywydd yr uwchgynhadledd wedi rhybuddio bod yna “her anferth o’n blaenau” yn dal i fod.
Mae disgwyl i’r trafodaethau orffen am 6yh heno, ond mae’n bosib y bydden nhw’n parhau’n hirach yn sgil pwysau am faterion megis rhoi arian i wledydd tlawd, galwadau i gyflymu atal rhoi cymorthdaliadau i’r diwydiannau tanwydd ffosil a glo, ac ymdrechion gwledydd i dorri allyriadau yn y 2020au.
“Gwadu gwyddoniaeth”
Cafodd y masgiau gan ymgyrchwyr Sir Benfro ac Aberteifi eu gwneud gan Bim Mason, sy’n ddarlithydd, perfformiwr, awdur ac un o brif wneuthurwyr masgiau’r Deyrnas Unedig.
Symudodd i Angl yn Sir Benfro ychydig cyn y cyfnod clo, ac mae wedi bod yn gweithio gyda grwpiau Gwrthryfel Difodiant yn Aberteifi, Abergwaun a Chaerfyrddin ers hynny.
“Nod y darn hwn oedd enwi a chywilyddio’r arweinwyr a’r dylanwadwyr hynny sydd wedi dod â ni i’r trychineb hinsawdd hwn, trwy wadu’r wyddoniaeth, gohirio gweithredu neu fod yn ddauwynebog, yn bennaf er mwyn cadw eu hunain mewn grym,” meddai Bim Mason.
Fel rhan o theatr stryd, ac wedi gwisgo fel yr arweinwyr, roedd y protestwyr mewn cadwyni.
“Cyfiawnder hinsawdd”
Bu Jane Mansfield, un o aelodau grŵp Aberteifi, yn rhan o brotestiadau tu allan i fanc JP Morgan – un o brif arianwyr tanwyddau ffosil.
Mae hi hefyd wedi bod yn cwrdd â phobol o bob cwr o’r byd, gan ddysgu sut mae newid yn yr hinsawdd yn achosi dioddefaint mewn cymaint o gymunedau yn ne’r byd eisoes.
“Cyfiawnder hinsawdd sylfaenol yw hwn ac mae’n hanfodol helpu’r gwledydd sydd leiaf cyfrifol am newid yn yr hinsawdd ond sy’n dioddef fwyaf o’i effeithiau,” meddai Jane Mansfield.
“Mae angen yr arian i’w galluogi i ymdopi â newid yn yr hinsawdd, ac i ddatblygu gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn hytrach na thanwydd ffosil. Cytunwyd ar hyn mewn uwchgynhadleddau COP blaenorol ond ni chafodd ei wireddu.”
Cafodd drafft cyntaf o’r cytundeb ei gyhoeddi ddydd Mercher, ac mae’n annog gwledydd i “ailymweld a chryfhau” targedau ar gyfer torri eu hallyriadau erbyn 2030, fel eu bod nhw’n cyd-fynd â’r nod o gyfyngu cynnydd tymheredd y byd i 1.5 gradd, erbyn diwedd 2022.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys galwad ar wledydd datblygedig i ddyblu, o leiaf, y cyfanswm ariannol sy’n cael ei roi i wledydd tlotach er mwyn iddyn nhw addasu i newid hinsawdd.
Mae rhai o’r cenhedloedd mwyaf agored i niwed wedi codi pryderon ynghylch diffyg manylder.
Er bod cynghrair newydd, Beyond Oil and Gas Alliance, wedi’i sefydlu ddoe, gyda Chymru’n rhan ohoni, er mwyn atal cynhyrchiant olew a nwy, nid yw’n derbyn y bydd ymrwymiad i stopio defnyddio tanwyddau ffosil yn ymddangos yn nrafft olaf y cytundeb.
“Her anferth”
Cafodd Jane Mansfield sgwrs ag Arweinydd Plaid Cymru yno hefyd, a thrafod y sefyllfa a’r ffyrdd y gall Cymru chwarae ei rhan.
Dywedodd Adam Price wrthi: “Rydyn ni’n siarad am fater dirfodol, fel dyfodol y blaned.
“Ac i mi, fel rhiant newydd i ddau o blant ifanc, bob dydd fel gwleidydd rydw i’n meddwl yn gyson am yr hyn y gallaf ei wneud i adael planed fywadwy iddynt.
“Does dim byd yn bwysicach na hynny.”
Wrth i’r trafodaethau gyrraedd eu diwrnod olaf, rhybuddiodd llywydd Cop26, Alok Sharma: “Mae gennym ni her anferth o’n blaenau yn dal i fod, ond gyda’n gilydd nid oes gennym ni ddewis ond ymateb i’r her honno a gwneud ein gorau glas i ddod i ganlyniad amserol y gallwn ni fod yn falch ohono.
“Oherwydd yn y pendraw, bydd y canlyniad hwn, beth bynnag y bydd, yn perthyn i ni gyd.”