Mae symud tuag at economi ‘werdd’ yn peryglu swyddi mewn rhai rhannau o’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Port Talbot, meddai adroddiad newydd.

Bydd ardaloedd yn y Deyrnas Unedig fydd yn cael eu taro waethaf wrth golli swyddi yn sgil datgarboneiddio diwydiannau yn colli allan ar arian i godi’r gwastad (levelling up) ac yn wynebu colli rhagor o waith, yn ôl yr ymchwil.

Gallai ardaloedd megis Port Talbot, Aberdeen a Stratford-upon-Avon gael eu heffeithio os bydd llai o swyddi mewn cynhyrchu dur, a llai o ddefnyddio tanwydd ffosil, meddai Cymdeithas Frenhinol Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach (RSA).

Mae’r adroddiad yn galw am Gronfa Gyfnewid Gyfiawn i gefnogi ardaloedd sy’n cael eu heffeithio gan ostyngiad mewn “swyddi sy’n achosi llygredd”, gan rybuddio nad yw hanner y llefydd fydd yn cael eu heffeithio waethaf yn rhan o restr blaenoriaeth uchaf San Steffan ar gyfer derbyn arian codi’r gwastad.

Mae gweinidogion yn cael eu hannog i wneud mwy i gefnogi ardaloedd sydd mewn perygl o gael eu gadael ar ôl yn sgil datgarboneiddio swyddi.

Dywedodd Fabian Wallace-Stephens, uwch ymchwilydd gyda’r RSA: “Mae datgarboneiddio yn hanfodol a gall arwain at ddyfodol gwell i weithwyr a chymunedau, ond dim ond os yw’r wladwriaeth yn cymryd rhan weithredol er mwyn siapio marchnadoedd llafur lleol drwy fuddsoddiad, dysgu sgiliau a chymorth llesiant gwell.

“Ar y funud, nid yw nifer o’r ardaloedd a fydd yn teimlo’r effeithiau waethaf yn rhan o’r categorïau blaenoriaeth ar gyfer arian codi’r gwastad.

“Rydyn ni angen sicrhau bod y polisi datgarboneiddio a’r polisi codi’r gwastad yn gweithio law yn llaw er mwyn sicrhau gwell dyfodol i’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio waethaf.”

“Cynyddu sgiliau”

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb GMB, Gary Smith, bod rhaid i Lywodraeth San Steffan sefydlu Awdurdod Datblygu Ynni Adnewyddadwy er mwyn cynyddu’r sgiliau a’r cyfleusterau ar gyfer y buddsoddiad anferth sydd ei angen i gyrraedd sero-net.

“Gall hyn helpu i liniaru colledion swyddi mewn llefydd eraill.”

Ychwanegodd bod angen miloedd o dyrbinau gwynt ar y môr er mwyn cwrdd â thargedau newid hinsawdd.

“Haeddu mwy na rhethreg”

Rhaid i “weithwyr a chymunedau fod wrth wraidd” y trawsnewidiad at economi werdd, meddai ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol Uno’r Undeb, Steve Turner.

“Ni fydd pobol weithiol ond yn cael eu perswadio pan maen nhw’n hyderus na fydd unrhyw weithle na chymuned yn cael eu gadael ar ôl ar y daith.

“Rydyn ni angen, ac yn haeddu, gymaint mwy na sŵn a rhethreg, ni wnawn dderbyn gyda’n llygaid ar gau.

“Does gan y Llywodraeth ddim cynllun na strategaeth ddiwydiannol i gysuro gweithwyr yn y Deyrnas Unedig, nag yr undeb hon, fod eu trawsnewidiad ‘gwyrdd’ am fod yn deg na chyfiawn.”

“Lledaenu cyfleoedd”

Dywedodd llefarydd ar ran San Steffan nad ydyn nhw’n derbyn y dadansoddiad hwn.

“Rydyn ni’n codi’r gwastad ymhob rhan o’r Deyrnas Unedig, gan ledaenu cyfleoedd, ymbweru arweinwyr lleol, gwella gwasanaethau cyhoeddus, ac adfer canol ein trefi a’r strydoedd mawr.

“Wrth i ni symud tuag at economi werdd a chyflwyno sero-net, mae swyddi newydd yn cael eu creu – 56,000 eleni’n unig – ac rydyn ni’n adeiladu ar hynny drwy roi hwb o £200 miliwn i gymunedau drwy gynnig hyfforddiant sgiliau i’r di-waith a buddsoddi mewn busnesau sy’n datblygu technoleg garbon isel.

“Bydd y Papur Gwyn ar Godi’r Gwastad, sydd ar ei ffordd, yn dweud sut y byddwn ni’n gwella cyfleoedd ymhellach a rhoi hwb i fywoliaethau dros y wlad wrth i ni adfer wedi’r pandemig.”