Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wella’r gefnogaeth i gyn-filwyr, meddai Plaid Cymru.

Dangosa ymchwil blaenorol gan Blaid Cymru bod nifer o gyn-bersonel y lluoedd arfog yn cysgu ar y strydoedd, yn y carchar, neu’n gwerthu a chamddefnyddio cyffuriau.

Yn ôl data diweddaraf Llywodraeth Cymru, dywedodd 57% o gyn-filwyr fod eu profiad o drosglwyddo i fywyd sifil yn ‘wael’, neu’n ‘wael iawn’.

Mae 75% o gyn-filwyr yn credu bod angen gwella’r cymorth yn y maes hwn, ac mae llefarydd Plaid Cymru ar Gyn-filwyr, Peredur Owen Griffiths AoS, wedi galw am wellhad sylweddol i ôl-ofal cyn-filwyr.

Yn ei alwadau, mae’n dweud bod angen ymestyn y flaenoriaeth iddyn nhw gael tai am bum mlynedd ar ôl iddyn nhw adael gwasanaeth milwrol.

“Gwellhad sylweddol”

Mae angen gwella’r sefyllfa i gyn-filwyr, drwy gydol y flwyddyn, meddai Peredur Owen Griffiths AoS.

“Y Diwrnod Cofio hwn, fe fyddai gwellhad sylweddol yn y gwasanaethau cymorth sydd yn cadw cyn-filwyr mewn cof drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig ar Sul y Cofio, yn destament parhaol a phriodol i bawb sydd wedi gwasanaethu,” meddai.

“Mae grŵp arbenigol y lluoedd arfog, sy’n cynghori ar sut y gall gwasanaethau cyhoeddus ddiwallu anghenion cymuned y lluoedd arfog, wedi dweud bod sawl peth y gallai’r Llywodraeth yng Nghymru ei wneud i wella pethau.

“Mae hyn yn cynnwys cynllun cenedlaethol i weithredu newidiadau o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006, ymrwymiad i ariannu’n barhaol y gronfa Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg Cymru, ac ymestyn blaenoriaeth tai i gwmpasu pum mlynedd ar ôl gadael y gwasanaeth milwrol.

“Yn y cyfamser, mae angen i Lywodraeth San Steffan gynyddu a gwneud mwy i bawb sydd wedi gwasanaethu ac sydd angen cymorth parhaus.

“Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y gwelwn ostyngiad sylweddol yn nifer y cyn-bersonél lluoedd arfog sy’n bennu lan yn ddigartref neu gyda rhyw fath o ddibyniaeth. Bydd hefyd yn lleddfu’r baich ar y sector elusennol, sy’n gorfod gwneud yr hyn y dylai unrhyw Lywodraeth gyfrifol fod yn ei wneud yn y lle cyntaf.”