Mae undeb USDAW wedi lansio pleidlais ynghylch gweithredu diwydiannol mewn naw safle Tesco ar draws y Deurnas Unedig, gan gynnwys un yng Nghymru.
Bydd aelodau o’r undeb sy’n gweithio yng nghanolfannau dosbarthu’r archfarchnad, gan gynnwys safle Magwyr ger Casnewydd, yn pleidleisio rhwng heddiw (dydd Llun, Tachwedd 22) a dydd Llun, Rhagfyr 6.
Mae’n debyg bod anghytuno wedi bod ynglŷn â’r codiadau cyflog sydd wedi eu cynnig gan Tesco, gyda’r undeb yn honni bod angen cynnydd pellach oherwydd y pandemig a’r chwyddiant parhaol.
Pe baen nhw o blaid gweithredu, mae disgwyl y bydd hynny’n digwydd yn ystod wythnos Rhagfyr 20, oni bai bod y cwmni’n gwneud cynnig o dâl gwell yn y cyfamser.
‘Haeddu codiad cyflog gweddus’
Dywedodd Swyddog Cenedlaethol USDAW, Joanne McGuinness, bod angen i Tesco “wneud yn well” wrth gefnogi eu gweithwyr yn yr hinsawdd ariannol a chymdeithasol sydd ohoni.
“Mae ein haelodau mewn naw canolfan ddosbarthu wedi gwrthod cynigion cyflog diweddaraf Tesco, felly rydyn ni am gynnal pleidlais ar weithredu diwydiannol,” meddai.
“Mae gweithwyr dosbarthu manwerthu yn weithwyr allweddol a ddarparodd wasanaethau hanfodol trwy gydol y pandemig.
“Yn ei dro, gwnaeth hynny sicrhau cynnydd o 16.5% mewn elw i Tesco am hanner cyntaf y flwyddyn.
“Mae’r gweithwyr hyn felly’n haeddu codiad cyflog gweddus fel gwobr am yr hyn maen nhw wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud o ddydd i ddydd.
“Os edrychwch chi hefyd ar gostau byw a chwyddiant cynyddol sydd wedi cyrraedd 6% ar hyn o bryd, mae angen i’r cwmni wneud yn well.
“Gellir osgoi gweithredu diwydiannol a phrinder stoc posibl mewn siopau yn ystod yr wythnos cyn y Nadolig, os daw’r cwmni yn ôl at y bwrdd gyda chynnig gwell sy’n dderbyniol i’n haelodau.”
Ymateb Tesco
“Rydyn ni wedi ein siomi fod penderfyniad wedi ei wneud i gynnal pleidlais ynghylch gweithredu diwydiannol yn nifer o’n safleoedd dosbarthu,” meddai llefarydd ar ran Tesco.
“Rydyn ni wedi cynnig tâl teg a chystadleuol, sy’n un o’r gwobrau ariannol mwyaf gan y cwmni o fewn ein busnes dosbarthu yn y 25 mlynedd diwethaf.”