Mae merched rygbi Cymru wedi colli o 24-7 yn erbyn Canada yng Nghaerdydd.

Roedden nhw ar y blaen o 7-0 ar yr egwyl, ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl a sgorio’u holl bwyntiau yn yr ail hanner heb fod gan Gymru ateb.

Dechreuodd Cymru’n gadarn wrth i’r bachwr Cerys Phillips groesi am gais ar ôl deng munud, gyda’r trosiad yn dod oddi ar droed Elinor Snowsill.

Ond daeth pwyntiau cynta’r ymwelwyr ar ôl deg munud o’r ail hanner, wrth i’r blaenasgellwr Courtney Holtkamp sgorio cais heb ei drosi i’w gwneud hi’n 7-5.

Daeth dau gais o fewn dim i’w gilydd wedyn i ymestyn mantais Canada, gyda chais DaLeaka Menin yn cael ei drosi gan Alexandra Tessier.

Ychwanegodd yr ymwelwyr gais arall drwy’r asgellwr Sabrina Poulin, cyn i Tessier drosi cais Pamphinette Buisa i’w gwneud hi’n 24-7.