Mae gwledydd Prydain wedi cael eu taro’n ddidrugaredd gan Storm Arwen yn ystod y nos.

Mae o leiaf ddau o bobl wedi cael eu lladd wrth i goed syrthio ar eu ceir mewn digwyddiadau yn Swydd Antrim yn Ngogledd Iwerddon, ac yn Ambleside yn Ardal y Llynnoedd.

Mae bron bod ardal arfordirol wedi eu taro gan wyntoedd cryf, gyda chyflymder o 98 milltir yr awr yn cael ei gofnodi yn Northumberland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr.

Yma yng Nghymru, cafodd Aberporth yng Ngheredigion ei daro â gwyntoedd o 77 milltir yr awr.

Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryf mewn grym yn y rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig ac eithrio de-ddwyrain Lloegr, a rhybuddion melyn am eira mewn ardaloedd mynyddig yn yr Alban a gogledd Lloegr.

Mae disgwyl i’r tywydd oer barhau tan ddydd Llun.