Mae Llywodraeth Prydain wedi cael ei hannog i ddileu bwlch mewn cynlluniau sydd ar waith i wahardd therapi trosi yng Nghymru a Lloegr.
Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd mae therapi trosi yn ymgais i newid neu atal cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd person.
Dywedodd yr Aelod o’r Senedd Llafur Kate Osborne y byddai’r “bwlch peryglus” mewn cynlluniau i ganiatáu ‘cydsyniadau gwybodus’ yn golygu y byddai cam-drin yn parhau.
Dengys ymchwil fod dioddefwyr, sy’n oedolion yn aml, yn ymgymryd â therapi trosi mewn lleoliad crefyddol yn wirfoddol, felly ni fyddai’r gyfraith yn eu diogelu.
Eleni mae Llywodraeth Cymru bellach wedi amlinellu ei chynlluniau i wneud Cymru yn “genedl fwyaf cyfeillgar LGBTQ+” yn Ewrop.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r holl bwerau sydd ganddo i wahardd “pob agwedd” ar therapi trosi.
Amddiffyn
Dywedodd y Gweinidog Cydraddoldeb, Liz Truss, ei bod am wahardd therapi trosi i amddiffyn pobl LHDT rhag yr hyn roedd hi’n ei alw’n “arfer annormal”.
Fis diwethaf, fe wnaeth Lywodraeth Prydain gynnal ymgynghoriad cyhoeddus sydd i fod i ddod i ben ar 10 Rhagfyr.
Maen nhw hefyd yn bwriadu cyflwyno “therapi siarad” ar gyfer oedolion o dan 18 oed neu oedolion sydd ddim yn cydsynio yn anghyfreithlon.
Mae’r ymgynghoriad hefyd yn dweud na ddylid atal seicolegwyr, cwnselwyr, clinigwyr a staff gofal iechyd rhag “darparu cefnogaeth ddilys i’r rhai allai fod yn cwestiynu os ydyn nhw’n LHDT”.
Yn ogystal ni ddylid ystyried sgyrsiau achlysurol neu weddi breifat fel therapi trosi siarad.
Bydd oedolion sy’n cydsynio yn cael hawlio’r therapi siarad hwn, ond bydd mesurau “cadarn a llym” ar waith – gan gynnwys gofyniad iddynt gael gwybod am ei effaith bosibl.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Kate Osborne fod “ymchwil a gomisiynwyd gan y llywodraeth wedi canfod bod dioddefwyr sy’n oedolion yn aml yn ymgymryd ag arferion trosi crefyddol yn wirfoddol, felly bydd cynnig y llywodraeth i gyflwyno ‘caniatâd gwybodus’ ar gyfer therapi trosi yn galluogi i’r cam-drin hwnnw barhau”.
“Bwlch difrifol iawn”
Yn ddiweddarach, wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb, dywedodd Jayne Ozanne, cyn-ymgynghorydd y llywodraeth ar gydraddoldeb, y byddai caniatáu therapi trosi i oedolion a oedd yn dymuno i’w gael yn gadael “bwlch difrifol iawn a fydd yn condemnio miloedd os nad degau o filoedd o bobl”.
Dywedodd Jayne Ozanne, sydd wedi profi therapi trosi ei hun, na fyddai’r gyfraith arfaethedig “wedi fy amddiffyn”.
“Treuliais oes yn chwilio am wellhad oherwydd roeddwn i’n credu bod pwy oeddwn i’n bechadurus,” ychwanegodd.
Rhyddid i weddïo
Ond yn ôl Simon Calvert o’r Sefydliad Cristnogol, elusen sydd wedi ymgyrchu yn erbyn priodas o’r un rhyw, dylid cael rhyddid i helpu pobl weddïo.
Dadleuodd y dylai fod yn bosibl llunio gwaharddiad ar therapi trosi a oedd yn mynd i’r afael â cham-drin heb droseddu “arferion cyffredin, diniwed” mewn eglwysi, megis gweddïo.
“Nid yw’n rhesymol iddo fod yn droseddol i weddïo gyda rhywun sy’n gofyn i chi weddïo gyda nhw,” meddai.
Ond yn ôl Jayne Ozanne dydy hi ddim yn galw am wahardd pregethu na gweddïo.
“Yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw y dylid gwahardd unrhyw arfer sydd wedi’i anelu at unigolyn sydd â phwrpas uniongyrchol a phendant i geisio eu newid nhw fel person, oherwydd rydym yn gwybod am yr effaith niweidiol allai gael ar yr unigolyn.”