Mae’r cynghorydd ar gabinet Cyngor Conwy sy’n gyfrifol am Addysg wedi beirniadu Llywodraeth Cymru, wedi i’r cyngor benderfynu y bydd yn rhaid iddyn nhw dalu am godiad cyflog o £350,000 i athrawon.
Fe wnaeth y cabinet gwrdd ar-lein i drafod sefyllfa gyllidol y cyngor, a daeth i’r amlwg bod Cyngor Conwy wedi gorwario £1.275 miliwn yn barod, a’u bod nhw’n bwriadu ei dalu gydag arian wrth gefn.
Ond mae’r cyfanswm hwnnw wedi codi i £1.651 miliwn bellach, yn bennaf oherwydd codiad cyflog anrhagweladwy o 1.75% i athrawon, sy’n golygu bil ychwanegol o £550,000.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw am ddarparu £6.4 miliwn ychwanegol dros Gymru i dalu’r gost o godi’r cyflogau, fe fydd Cyngor Conwy ond yn derbyn £200,000 – gan olygu eu bod nhw’n brin o £350,000.
Fe wnaeth y cabinet bleidleisio y dylai ysgolion dalu’r gost, gan fynnu nad yw addysg wedi wynebu toriadau o gwbl dros y flwyddyn ddiwethaf o gymharu ag adrannau eraill.
Dywedodd Brain Cossey, yr aelod dros Gyllid, fod Cyngor Conwy dan bwysau anferth wrth i’r adrannau Addysg, Gwasanaethau Cyhoeddus, yr Amgylchedd a’r Ffyrdd gael trafferthion gyda chostau.
Dywedodd y Cynghorydd Cossey fod pethau’n debygol o waethygu gyda phwysau parhaus y pandemig, codi cyfyngiadau’r cyfnod clo, a chynnydd mewn costau byw, megis prisiau tanwydd.
Dywedodd hefyd fod y cyngor wedi cysylltu gyda Llywodraeth Cymru ac wedi darparu tystiolaeth am y bwlch yn y cyllid, ond yn ofer.
“Dim atebion hawdd”
Fe wnaeth aelod y cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Julie Fallon, feio Llywodraeth Cymru, ond dywedodd y bydd y rhan fwyaf o ysgolion yn gallu ymdopi â’r costau ychwanegol.
“Does yna ddim atebion hawdd, er mwyn bod yn deg, ar gyfer unrhyw ran o hyn,” meddai.
“Mae’n anodd eistedd yma a siarad am godiadau cyflog athrawon a gorfod mynd at ysgolion; fodd bynnag, o le arall ydyn ni am ddod o hyd i’r arian?
“Does yna ond nifer fach o ysgolion lle mae’r rhagolygon ar gyfer cyllidebau diwedd-y-flwyddyn am fod yn broblem.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n anodd dweud y bydden ni’n dod o hyd i’r arian yma o unrhyw le arall pan mae yna gymaint o faterion eraill rydyn ni’n trio mynd i’r afael â nhw.
“Dw i’n meddwl mai’r ffordd orau ymlaen yw drwy weithio gydag ysgolion lle y gall hyn fod yn broblem. Does dim o hyn am fod yn hawdd.”
Ychwanegodd: “Yn anffodus, rydyn ni’n edrych ar £500,000 o fwlch mewn cyllid ar gyfer 2021/22 o ran codiadau cyflog athrawon, ac mae Llywodraeth Cymru’n dweud wrthym ni y bydden nhw’n talu £200,000.
“Wel, yn ddelfrydol dw i’n meddwl y dylen nhw [Llywodraeth Cymru] dalu am y £350,000 ychwanegol.
“Fedra nhw ddim disgwyl i awdurdodau lleol drio dod o hyd iddo.
“Mae gwasanaethau addysg yn cael trafferth talu am yr hyn maen nhw’n ei wneud yn barod. Felly dw i ddim yn meddwl bod yna unrhyw ddewis arall, oni bai am gefnogi’r argymhelliad (yn yr adroddiad), gweithio gydag ysgolion lle gall hyn fod yn broblem, a rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gamu ymlaen a thalu’r gwahaniaeth.”
“Heb ei debyg”
Fe wnaeth yr aelod cabinet dros ofal cymdeithasol, y Cynghorydd Cheryl Carlisle, adleisio’r pwyntiau, gan fynnu bod y gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu pwysau ariannol enfawr hefyd.
“Felly dw i’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n gwrando arnom ni,” meddai’r Cynghorydd Carlisle.
“Dw i erioed wedi gweld dim byd fel hyn, a dw i’n gobeithio eu bod nhw’n deall bod hwn yn amser heb ei debyg, ac yn talu.”
Er nad yw’r Cynghorydd Anne McCaffrey yn aelod o’r cabinet, cafodd siarad yn y cyfarfod a galwodd y penderfyniad yn un “anfoesol”, gan fynnu nad ydyn nhw’n rhagweld i’r dyfodol ac y byddai diswyddiadau mewn ysgolion yn dilyn hyn.
Fe wnaeth y Cynghorwyr Julie Fallon a Brian Cossey wrthwynebu ei sylwadau, a phasiodd y bleidlais.
Cyngor Conwy wedi cael “cynnydd o £5.7m”
Yn ymateb i’r cwynion, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“Mae Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am gyflogau ac amodau athrawon. Fodd bynnag, i gydnabod yr amgylchiadau a’r pwysau eithriadol ar gyllidebau oherwydd y pandemig, rydym wedi darparu £6.4m ychwanegol i gefnogi Awdurdodau Lleol gyda’r cynnydd cyflogau athrawon. Yn 2021-22, bydd Conwy hefyd yn derbyn cynnydd o £5.7m yn ei chyllid craidd, y gallai ei ddefnyddio tuag at y codiad.”