Mae Boris Johnson o dan bwysau ychwanegol dros gynnal partïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo, yn sgil adroddiadau ei fod wedi mynychu mwy o ddigwyddiadau sydd dan ymchwiliad gan yr heddlu.

Mae The Daily Telegraph yn adrodd ei fod wedi cael ei weld yn mynd i’w fflat gyda’r nos ar 13 Tachwedd 2020 pan oedd digwyddiad yno – sef yr un diwrnod yr oedd ei brif ymgynghorydd Dominic Cummings wedi gadael Rhif 10.

Roedd Boris Johnson wedi gwrthod dweud ddydd Llun a oedd yn bresennol yn y digwyddiad.

Mae’r digwyddiad yn rhan o ymchwiliad Heddlu’r Met.

Yn ôl adroddiadau roedd y Prif Weinidog hefyd wedi mynychu dau ddigwyddiad arall sydd hefyd yn cael eu hymchwilio gan Scotland Yard.

Mae’r adroddiadau’n sicr o gryfhau honiadau’r gwrthbleidiau bod Boris Johnson yn ymwybodol o’r partïon yn Downing Street a rhannau o Whitehall ar y pryd.

Yn ei “diweddariad” ddydd Llun, roedd Sue Gray, yr uwch was sifil sy’n arwain yr ymchwiliad i’r honiadau, wedi datgelu bod 12 digwyddiad rhwng 2020 a 2021 sy’n rhan o ymchwiliad yr heddlu.

Nid oedd yn bosib iddi gyhoeddi ei chasgliadau’n llawn oherwydd ymchwiliadau’r heddlu.

Dywed Downing Street nad ydyn nhw’n gallu gwneud sylw am yr adroddiadau diweddaraf oherwydd bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.

Mae nifer o aelodau meinciau cefn o bob plaid wedi galw ar y Prif Weinidog i gamu o’r neilltu ond yn ôl yr Ysgrifennydd Cymunedau, Michael Gove, nid dyma’r amser i gynnal her i’w arweinyddiaeth.