Dydy cynghorau lleol ddim yn mynd “ma’s o’u ffordd” i fod yn groesawgar i bobol ifanc, yn ôl un cynghorydd ifanc o Rondda Cynon Taf.

Cafodd Elyn Stephens ei hethol yn gynghorydd Plaid Cymru dros ward Ystrad bron i bum mlynedd yn ôl yn 25 oed, a chafodd ambell brofiad annifyr fel ymgeisydd a chynghorydd.

Mae arweinwyr holl awdurdodau lleol Cymru wedi cytuno i wneud datganiad ar y cyd, yn galw ar gynghorwyr a holl ymgeiswyr etholiadau lleol mis Mai i ymrwymo i ymgyrch deg a pharchus.

Fel rhan o’r datganiad, maen nhw’n nodi bod angen iddyn nhw roi tawelwch meddwl a chefnogi ymgeisydd sy’n newydd i fywyd democrataidd, y rhai sy’n ymwybodol eu bod nhw yn y lleiafrif, neu sydd eisoes wedi profi gwahaniaethau.

Er gwaetha’r ymosodiadau mae Elyn Stephens wedi’u hwynebu, mae hi’n annog menywod ifanc, yn enwedig, i sefyll yn yr etholiadau eleni, ac yn pwysleisio bod angen sicrhau croestoriad eang a chynrychiolaeth ymysg pobol ddu, Asiaidd, ac o gefndir lleiafrifol, pobol LHDTC+, a phobol ag anableddau hefyd.

“Profi” ymateb

Wrth sefyll fel ymgeisydd bum mlynedd yn ôl, dioddefodd Elyn Stephens gamdriniaeth ar-lein gan un unigolyn oedd yn defnyddio lluniau ohoni i greu memes.

“Mae popeth ar-lein wedyn, ar ôl cael fy ethol, wedi bod yn iawn i fi ond dw i’n gwybod fy mod i’n lwcus iawn yn gallu dweud hynny,” meddai Elyn Stephens wrth golwg360.

“Mae fy mhrofiad i yn y Siambr wedyn ychydig bach yn wahanol.”

Ar un achlysur, fe wnaeth cynghorydd arall “sgrechian” ei wrthwynebiad ar Elyn Stephens mewn cyfarfod yn y cyngor.

“Roedd e’n bennu lan yn agos iawn at sgrechian yn fy wyneb i, ac roedd hyn o fewn tri mis o gael fy ethol,” eglura.

“Yr argraff roeddwn i’n gael, oedd [ei fod e’n gwneud e] bron i brofi sut oeddwn i’n ymateb.

“Doedd y pwnc roedden ni’n ei drafod ar y pryd ddim mor ddiddorol â hynny, bendant ddim mor angerddol â hynny, i gael rhywun i wylltio i’r lefelau yna.

“Y teimlad, fel ei fod e’n gwasgu i weld sut bysen i’n ymateb fel rhywun cymharol ifanc, fel menyw cymharol ifanc, newydd gael fy ethol.”

Roedd y cynghorydd wnaeth weiddi ar Elyn Stephens o blaid wahanol iddi hi, ac mae hi’n credu bod hynny wedi chwarae rhan hefyd.

“Mae yna bendant deimlad pleidiol gyda phleidiau, bron i’r pwynt lle mae’n anodd iawn cydweithio’n drawsbleidiol,” meddai.

Ar ôl teimlo sioc wedi’r gweiddi, dechreuodd Elyn Stephens deimlo’n siomedig eu bod nhw’n meddwl bod yr ymddygiad yn dderbyniol, ac na chamodd neb i mewn er eu bod nhw’n gwybod ei bod hi’n newydd.

‘Cynrychioli pawb’

Er gwaetha’r profiadau mae Elyn Stephens wedi’u cael ar y cyngor, mae hi’n dweud ei bod hi “mor bwysig” i fenywod ifanc sefyll yn etholiadau’r cyngor.

“Dw i wedi bod yn lwcus dros ben yn cael polisi mewn fel cynghorydd sy’n gwrthwynebu’r grŵp sy’n rheoli am dlodi misglwyf, a chael polisi nawr sy’n rhedeg yn genedlaethol,” meddai Elyn Stephens.

“Fysa hwnna ddim wedi digwydd heb i fenyw ifanc gael ei hethol.

“Dw i ddim yn dweud mai dim ond fi fysa wedi gwneud, ond dw i’n siŵr y bysa hwnna ddim wedi cael ei wneud heblaw bod menyw ifanc wedi cael ei hethol.

“Rydyn ni yna i gynrychioli pawb o bob cwr o gymdeithas, a gan fod cyn lleied o gynghorwyr yn fenywod ar hyn o bryd mae e’n hollbwysig ein bod ni’n cael menywod yn gyffredinol, ond yn fwy pwysig menywod ifanc.”

Ar hyn o bryd, tua 28% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod, gyda’r ganran lawer is mewn rhai awdurdodau.

Dim ond un o’r rhwystrau yw’r gamdriniaeth, meddai Elyn Stephens, gan ychwanegu nad yw amseroedd cyfarfodydd yn helpu’r sefyllfa i fenywod ifanc sy’n gweithio, neu a allai fod â phlant, chwaith.

“Dw i ddim yn meddwl bod y cyngor ar hyn o bryd yn rhywle sydd yn mynd ma’s o’i ffordd i fod yn groesawgar at bobol ifanc, neu fenywod ifanc yn benodol,” meddai.

“Mae e’n rhywle sydd wedi cael ei reoli gan bobol sy’n tueddu i fod yn hŷn, ac mae’r system wedi setio lan i serviceio pobol oedran hŷn.

“Mae angen croestoriad o gymdeithas i gyd, ac mae hwnna’n cynnwys pobol o’r gymuned BAME, y gymuned LGBTQ, pobol gydag anableddau, mae’n cynnwys pawb nid jyst menywod neu fenywod ifanc.”

‘Trin pawb â chwrteisi’

Mewn datganiad cyn yr etholiad, mae arweinwyr 22 cyngor lleol Cymru wedi dweud eu bod nhw’n gweld nifer gynyddol o gynghorwyr ac ymgeiswyr yn cael eu cam-drin, eu bygwth a’u dychryn.

“Yn ogystal â bod yn gwbl annerbyniol, mae’r ymddygiad hwn yn tanseilio egwyddorion rhyddid barn, ymgysylltu democrataidd a thrafod,” meddai’r datganiad.

“Rydym ni’n ymdrechu i drin pawb â chwrteisi, caredigrwydd a pharch ac, fel arweinwyr, rydym ni’n sefyll gyda’n gilydd i alw am roi diwedd ar gam-drin, brawychu ac aflonyddu o unrhyw fath.

“Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i ni gychwyn ar y cyfnod allweddol cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.

“Rydym ni’n addo cymryd rhan mewn ymgyrch etholiadol deg sy’n seiliedig ar ymgyrchu cadarnhaol a theilyngdod, yn hytrach nag ymosodiadau personol a difenwol yn erbyn unigolion.

“Rydym ni’n annog pob aelod etholedig a phob ymgeisydd yn yr etholiad sydd ar y gweill i wneud yr un peth. Yn ogystal, fe fyddwn ni’n amlygu’n gyhoeddus unrhyw ymddygiad amhriodol o’r fath ac ni fydd unrhyw oddefgarwch o ran cam-drin.”

Galw am wneud mwy i wella’r amrywiaeth ar gynghorau lleol

Cadi Dafydd

28% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod, ac mae angen i gynghorau adlewyrchu’r holl boblogaeth, meddai Jess Blair