Mae Aelod Seneddol Llafur Gorllewin Casnewydd wedi awgrymu y byddai’n well pe bai Boris Johnson wedi canu ‘Careless Whisper’ yn hytrach nag ‘I Will Survive’ wrth iddo fe a’i Gyfarwyddwr Cyfathrebu Guto Harri gyfarch ei gilydd yn Downing Street.

Fe wnaeth Guto Harri ddatgelu’r sylwadau yn ystod cyfweliad â golwg ddechrau’r wythnos.

Mae’r mater wedi cael cryn sylw yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog yn San Steffan heddiw (dydd Mercher, Chwefror 9).

“Dw i’n deall bod y Prif Weinidog wedi cael ei glywed yn canu ‘I Will Survive’ dros y dyddiau diwethaf,” meddai Ruth Jones ar ddechrau ei chwestiwn.

“Byddwn i’n awgrymu y byddai’n well pe bai e wedi canu Careless Whisper, yn hytrach, oherwydd, Mr Llefarydd, yn 2017 cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe ei chondemnio i ddedfryd o gyfnod estynedig o garchar yn Iran oherwydd geiriau di-ofal y prif weinidog hwn.

“Nawr, yn 2022, cafodd fy nghyfaill, arweinydd yr wrthblaid, ei aflonyddu gan labystiaid y tu allan i’r senedd hon oherwydd geiriau diofal, gwarthus y prif weinidog.

“Felly a fydd y prif weinidog yn gwneud y peth iawn ac yn ailystyried ei eiriau, yn edifar ac yn ymddiswyddo?”

Ymateb

“Mr Llefarydd, dw i ddim yn credu chwaith y dylai hi adael i’r labystiaid a’r iobiaid wnaeth fwlio ac aflonyddu’r gŵr bonheddig Gwir Anrhydeddus ddod i ffwrdd â hyn, yn gymaint ag y dylai hi adael i Lywodraeth Iran ddod i ffwrdd â hyn, oherwydd maen nhw’n euog,” meddai Boris Johnson wrth ymateb i’r cwestiwn.

Biliau ynni, costau byw a thwyll yn dominyddu Cwestiynau’r Prif Weinidog

Syr Keir Starmer yn gofyn am yr hyn sy’n effeithio bywydau pobol ar hyn o bryd, tra bod y Prif Weinidog i’w weld yn fwy hyderus ynddo’i hun