Biliau ynni, costau byw a thwyll oedd y tri phwnc blaenllaw yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher, Chwefror 9) wrth i Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, gyhuddo’r Llywodraeth o “wawdio deallusrwydd y cyhoedd”.
Do, fe gafodd partïon Rhif 10 eu crybwyll unwaith neu ddwy, ond dewisodd Syr Keir Starmer ofyn am yr hyn sy’n effeithio bywydau cymaint o bobol ar hyn o bryd, tra bod y Prif Weinidog i weld yn fwy hyderus ynddo’i hun nag mewn wythnosau blaenorol.
Fe ddechreuodd y sesiwn drwy gyhoeddi y byddai holl gyfyngiadau Covid-19 Lloegr yn dod i ben fis yn gynnar.
Fodd bynnag, yn ei gwestiwn cyntaf, gofynnodd Syr Keir Starmer a oedd y Prif Weinidog yn cytuno â “sylwadau diweddar gan yr ysgrifennydd busnes nad yw twyll yn rhywbeth y mae pobol yn ei brofi yn eu bywydau o ddydd i ddydd”.
Twyll – a thwll
Aeth yn ei flaen i gyhuddo’r Cabinet o “anwybyddu sgamwyr” wrth i’r Canghellor ddileu £4bn o golledion i dwyll.
Wrth ymateb, dywedodd Boris Johnson fod y llywodraeth yn “casáu” twyll, gan ychwanegu bod mesurau gwrth-dwyll wedi eu cryfhau.
Ychwanegodd fod troseddau cyffredinol i lawr 17%.
Ond roedd gan ateb y Prif Weinidog “dwll mawr ynddo”, yn ôl Syr Keir Starmer.
“Rydan ni wedi cael cyfyngiadau symud dros y ddwy flynedd diwethaf,” meddai.
“Dwy drosedd y gallai pobol eu cyflawni oedd twyll ar-lein a chynnal partïon, ac mae’n ymddangos bod niferoedd y ddau beth yno wedi mynd drwy’r to.
“Ond roeddwn i’n holi’r Prif Weinidog am yr 14,000 achos o dwyll sy’n digwydd bob dydd, nifer o bobol hŷn yn cael eu twyllo o’u cynilion ac mae’r Ysgrifennydd Busnes yn awgrymu ar y teledu nad yw’n drosedd go iawn.
“A beth yw ymateb y Canghellor? Dileu £4bn mewn colledion a gwrthod ymchwiliad gan yr Asiantaeth Troseddu Gwladol.”
Atebodd Boris Johnson drachefn drwy ddweud bod y Llywodraeth yn “mynd i’r afael â phob math o droseddu”.
“Rydym yn mynd i’r afael â throseddau cymunedol sy’n cael effaith seicolegol enfawr, troseddau cyllyll, byrgleriaeth a thrais ar y stryd gyda dedfrydau llymach ac rydym yn rhoi mwy o heddlu ar y stryd,” meddai.
Costau ynni
Gan droi at filiau ynni a chostau byw, beirniadodd Syr Keir Starmer gynllun y Llywodraeth i helpu pobol i ymdopi â phrisiau uwch a gafodd eu hamlinellu yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd fod y cynllun ad-daliad – lle bydd aelwydydd yn derbyn £200 oddi ar filiau ynni y byddan nhw’n eu had-dalu’n ddiweddarach dros amser – yn cyfateb i “dwyll”.
“Nid yw’n gynllun priodol,” meddai.
“Mae fel petai meddyliau’r Prif Weinidog wedi bod ar rywbeth arall ers wythnosau.
“Mae aelwydydd yn mynd i orfod talu £19bn ar eu biliau ynni, ac mae’r Llywodraeth yn “gwawdio deallusrwydd y cyhoedd drwy ddweud wrthynt eu bod yn cael disgownt”.
“Ond nid disgownt mohono, twyll ydyw,” meddai.
“Mae’n gynllun prynu rŵan, talu wedyn – benthyciad amheus yn hytrach na chynllun go iawn.
“Gadewch i mi roi hyn mewn iaith y mae ef yn ei deall. Pan fo’i roddwyr yn rhoi arian iddo er mwyn iddo allu cynnal ei ffordd o fyw gan ddweud bod yn rhaid iddo dalu’r cwbl yn ôl nes ymlaen, ydyn nhw’n rhoi benthyciad neu ddisgownt iddo?”
Fodd bynnag, fe wnaeth Boris Johnson amddiffyn y cynllun, gan ei alw’n “gyflymach” ac yn “fwy hael” nag unrhyw gynllun gan y Blaid Lafur.
“Mae’r cynllun werth £9.1bn Mr Llefarydd, rydym yn defnyddio symiau enfawr o arian i helpu pobol ar hyd a lled y wlad,” meddai.
“A’r unig reswm yr ydym yn gallu fforddio gwneud hynny ydi oherwydd bod gennym ni economi gref, yr economi sy’n tyfu gyflymaf yn y G7, nid yn unig y llynedd ond eleni hefyd.”
Virginia Crosby ac ynni niwclear
Roedd Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn, ar y llaw arall yn “croesawu” cynllun ad-dalu ynni’r Llywodraeth.
Ond doedd hi ddim yn syndod ei chlywed yn crybwyll ynni niwclear ar ôl dweud wrth golwg360 yr wythnos ddiwethaf ei bod hi “am ymladd gyda’i chalon ac ysbryd” i sicrhau y bydd ynni niwclear yn cael ei sefydlu ar Ynys Môn.
Gofynnodd i’r prif weinidog a oedd y Llywodraeth am fwrw ymlaen ar frys gydag ynni niwclear – wedi i Hitachi dynnu’n ôl o brosiect yn ei hetholaeth ym Môn.
Addawodd Boris Johnson y byddai “o leiaf un prosiect niwclear mawr yn ystod y Senedd hon”, a dywedodd y byddai bil gan y Llywodraeth yn sicrhau bod y cyllid ar gael i’w ariannu.
Boris Johnson yn addo cyhoeddi adroddiad Sue Gray
Yn y cyfamser, fe wnaeth Boris Johnson addo cyhoeddi adroddiad Sue Gray pan mae’n ei dderbyn.
Gofynnodd Mark Harper, yr Aelod Seneddol Torïaidd, a fyddai Boris Johnson yn ymrwymo i gyhoeddi adroddiad Sue Gray yn llawn ac ar unwaith pan fydd yr heddlu’n gorffen eu hymchwiliad.
Wnaeth Boris Johnson ddim gwarantu hynny yn ystod dadl ar ganfyddiadau cychwynnol Sue Gray fis diwethaf – cyn i’w lefarydd wedyn wneud y sicrwydd ychydig oriau’n ddiweddarach.
Ymatebodd Boris Johnson ei fod yn credu ei fod wedi ateb y cwestiwn o’r blaen, ond dywedodd y byddai’n cyhoeddi beth bynnag sy’n cael ei roi iddo gan Sue Gray “yn llawn ac ar unwaith”.