Mae angen gwneud mwy i sicrhau bod cyfleoedd i bobol rannu swyddi mewn rolau uwch, yn ôl dwy sy’n rhannu swydd prif weithredwr.
Ers mis Ionawr, mae Harriet Green a Myra Hunt yn rhannu swydd Prif Weithredwr Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru, ac er bod y ddwy wedi arfer rhannu swydd, mae’n fodel anghyffredin yn y sector cyhoeddus.
Yn ôl y ddwy, mae datblygu cyfleoedd i rannu swyddi yn ffordd o ganiatáu i set fwy amrywiol o bobol weithio mewn swyddi uchel a defnyddio’u harbenigedd.
Mae’r ddwy wedi bod yn rhannu swydd ers 11 mlynedd, ac mae’r model hwn o weithio’n caniatáu iddyn nhw ddal swyddi uchel na fyddai’n bosib iddyn nhw eu gwneud fel arall, yn sicrhau gwell cydbwysedd o ran bywyd a gwaith, ac yn cynnig manteision i’r sefydliadau y maen nhw wedi gweithio iddyn nhw.
Gwell cydbwysedd
Mae gan Harriet Green a Myra Hunt blant ifanc a bywydau prysur, a fyddai’r un ohonyn nhw ddim wedi dewis gwneud swydd prif weithredwr yn llawn amser, a fyddai’r fath swydd ddim yn gallu bod yn un rhan amser.
“I ni, mae e wedi caniatáu i ni ddal nifer o swyddi uchel iawn a’u gwneud nhw’n dda iawn,” meddai Harriet Green wrth golwg360.
“Mae yna fuddion mawr i ni o ran ein cydbwysedd bywyd / gwaith, a hefyd o ran ansawdd y gwaith rydyn ni’n gallu ei wneud oherwydd mae dwy ohonom ni, dau ymennydd, dau set o brofiadau, dau set o dalentau, dau fath o steil.”
Gallai rhannu swydd fod yn opsiwn i bobol sy’n dymuno gweithio oriau rhan amser yn sgil eu dyletswyddau eraill, megis gofalu am berthnasau, yn ôl Myra Hunt.
“Mae rhannu swydd yn hyfryd oherwydd mae’n caniatáu i chi fynd â’ch oriau i rai rhan amser ac ymdopi â’r dyletswyddau allanol hynny, ond parhau i allu cystadlu fel person ar eich pen eich hun,” meddai wrth golwg360.
“Mae lot o’r gwaith o fod yn uwch arweinydd yn ymwneud â bod yn wydn, mae’n rhaid i chi gario ymlaen a pharhau i wneud penderfyniadau anodd, a’r peth hyfryd am rannu swydd yw bod gennych chi’r gwydnwch yna achos rydych chi’n gallu cael amser i orffwyso.”
Mae yna fanteision o ran cyflog i rannu swydd, o gymharu â chymryd rôl rhan amser, yn ôl Myra Hunt.
“Mewn realiti, fel rydyn ni i gyd yn gwybod, unwaith rydych chi’n dechrau gweithio yn rhan amser, mae potensial eich cyflog yn gostwng,” meddai.
“Mae rhannu swydd yn ffordd dda iawn o weithio rhan amser a gwarchod potensial eich cyflog, felly mae’n opsiwn da iawn ar gyfer pobol sy’n ystyried mynd o fod yn llawn amser i fod yn rhan amser.
“Mae hi dipyn gwell trio rhannu swydd achos oherwydd rydych yn dal ymlaen i’r potensial o gynyddu eich cyflog.”
Gwella amrywiaeth
Mae Myra Hunt a Harriet Green yn awyddus iawn i fod yn fodelau rôl, a dangos ei bod hi’n bosib i bobol rannu swyddi mewn rolau uchel.
“Dw i’n meddwl fod a wnelo hyn â chaniatáu i set lot fwy amrywiol o bobol allu gwneud swyddi ar lot o wahanol lefelau,” meddai Harriet Green.
“Mewn un ystyr, mae e i gyd yn ymwneud ag amrywiaeth, ffordd o ganiatáu i fwy o amrywiaeth o bobol fod yn rhan o’r gweithlu a defnyddio eu gwerth, eu talent a’u harbenigedd.
“Mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ehangu rhannu swyddi, ac mae hynny’n ymwneud â sicrhau mwy o amrywiaeth.”
“Rydyn ni wedi cyffroi ein bod ni’n gallu cymryd rôl mor uchel wrth rannu swydd, ac rydyn ni eisiau bod yn amlwg fel modelau rôl oherwydd rydyn ni wirioneddol yn gweld gwerth yn hyn,” meddai Harriet Green.
Mae’r ddwy am herio’r canfyddiad mai dim ond at ryw lefel benodol y mae hi’n bosib rhannu swyddi, a dangos ei bod hi’n bosib gwneud gwaith da iawn wrth ddilyn y model mewn swyddi uchel.
‘Fel delio efo un person’
Mae heriau’n dod â rhannu swydd, ond mae’n rhaid cymryd cyfrifoldeb dros y berthynas, meddai’r ddwy.
“Mae’n rhaid i chi fod yn barod i gyfaddawdu weithiau. Mae’n rhaid cyfathrebu lot gyda’ch partner i greu a chael hunaniaeth lyfn pan rydych chi mewn cyfarfod bwrdd ac ati,” meddai Myra Hunt.
“Mae’n gorfod bod fel delio efo un person, fedrwch chi ddim cael sefyllfa lle mae rhaid i rywun aros i Myra ddod mewn oherwydd mai dim ond Myra sy’n gallu ateb y cwestiwn yna,” ychwanegodd Harriet Green.
“Rydyn ni’n hollol ymrwymedig i sicrhau bod rhywun yn gallu dechrau sgwrs efo fi a’i gorffen hi efo Myra, oherwydd rydyn ni’n cyfathrebu yn y ffordd honno.
“Mae gennym ni fantra, ‘Ni ddylai neb orfod gweithio’n galetach oherwydd bod dwy ohonom ni’.
“Byddem ni’n gwneud yr holl gyfathrebu rhyngom ni, fel bod neb yn teimlo’u bod nhw’n gorfod dweud rhywbeth wrthym ni ddwywaith neu aros i’r llall ddod mewn neu gael ateb gwahanol.”
Yn aml, mae pobol yn gofyn i Myra a Harriet a ydyn nhw’n gystadleuol, meddai Myra Hunt.
“Mantra Harriet, sy’n fantra da iawn, yw ‘Llwyddiant Myra yw fy llwyddiant i, a llwyddiant Harriet yw fy llwyddiant i’.
“Mae hynny yn neis iawn, rydyn ni wirioneddol yn mwynhau llwyddiant ein gilydd.”