Mae gorsaf radio cymunedol yng ngogledd orllewin Cymru yn dathlu degawd o wasanaeth i’w gwrandawyr.

Gorsaf hollol wirfoddol yw MônFM, a phan gafodd ei lansio ar Fawrth 1, 2012, y bwriad oedd darparu newyddion, adloniant a straeon lleol i bobol Ynys Môn yn unig.

Bellach, maen nhw wedi ehangu i ardaloedd eraill yn y gogledd orllewin, yn ogystal â chynnig darpariaeth ar-lein drwy wasanaethau ffrydio.

Yn rhan o’r dathliadau, bydd stiwdio radio ddigidol newydd sbon yn cael ei hagor yng nghanolfan yr orsaf yn Llangefni, gydag arian yn cael ei ddarparu gan yr elusen o Fôn, Y Gymdeithas, a grant ‘ARFOR’ gan Lywodraeth Cymru.

Fe fydd y stiwdio newydd yn “galluogi rhyngweithio aml-gyfrwng rhwng gwrandawyr a chyfranwyr”, ac mae eisoes wedi caniatáu i wirfoddolwyr yr orsaf gynnal gwasanaeth radio lleol drwy ddarlledu o bell yn ystod y pandemig.

Y gwasanaeth yn “werthfawr”

Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r orsaf wedi cynyddu ei horiau gweithredu, ac mae’r gwirfoddolwyr bellach yn buddsoddi tua 1,200 awr y mis ar gyfartaledd.

Mae nifer o gyn-weithwyr hefyd wedi mynd ymlaen i weithio gyda rhai o gewri’r byd darlledu, megis y BBC, ITV, a Global.

Tony Wyn Jones (dde)

Ar drothwy’r garreg filltir, mae Tony Wyn Jones, cadeirydd dros dro MônFM, yn ymfalchïo yn eu llwyddiant.

“Ni allaf ond talu teyrnged i holl wirfoddolwyr a chefnogwyr yr orsaf sydd wedi rhoi ei hamser a’u hymdrech i ddarparu gwasanaeth darlledu cymunedol gwerthfawr,” meddai.

“Mae’r tîm technegol ym MônFM wedi bod yn eithriadol o weithgar – fe wnaethant barhau â’u gwaith yn ddiogel dros y cloeon er mwyn datblygu’r stiwdio newydd.

“Rydym wrth ein bodd bod y stiwdio newydd yn caniatáu cymaint o hyblygrwydd i ryngweithio â’n gwrandawyr a chefnogwyr yr orsaf.

“Rydym yn parhau i apelio at unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y cyfryngau i ymuno â ni i ennill profiad a sgiliau newydd wrth gael hwyl drwy ddarparu gwasanaeth radio cymunedol gwerthfawr i drigolion gogledd orllewin Cymru.”

‘Gweithio’n ddiflino’

Y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes yw cadeirydd elusen ‘Y Gymdeithas’, a ddarparodd gyllid i’r stiwdio, a fo fydd yn agor y stiwdio newydd yn swyddogol.

“Mae’r Gymdeithas yn ymfalchïo mewn darparu cyllid grant i brosiectau ac achosion elusennol er budd pobl Ynys Môn, ac mae’n siŵr y bydd effaith gadarnhaol grant MônFM i’w deimlo ar draws hyd a lled yr Ynys,” meddai.

“Mae’n wych gweld y cyfleusterau newydd, a fydd yn cefnogi datblygiad a lles cymunedol a hefyd yn gwella cydlyniant cymunedol.

“Mae gwirfoddolwyr MônFM yn gweithio’n ddiflino i ddarparu gwasanaeth darlledu cymunedol hygyrch, yn enwedig i gefnogi pêl-droed llawr gwlad a gweithgareddau chwaraeon.

“Bydd y cyfleusterau newydd yn fodd i hybu rhyngweithio o’r fath orau am flynyddoedd i ddod.”

Mae MônFM hefyd wedi bod yn allweddol wrth ddarparu gwybodaeth am wleidyddiaeth leol, gan greu llwyfan ar gyfer ymgynghoriadau, cyfweliadau a chyhoeddiadau lleol.

Dywed y Cynghorydd Carwyn Jones fod “MônFM yn darparu gwasanaeth lleol pwysig i’r ardal, a gwn pa mor galed mae gwirfoddolwyr yn gweithio i ddarparu gwasanaeth darlledu cymunedol sydd o ansawdd.”