Mae Russell Bentley wedi gosod record newydd ar gyfer rhedeg i ben 47 o gopaon y gogledd.

Yn wreiddiol o Lundain, ond yn byw ym Mlaenau Ffestiniog ers wyth mlynedd, cwblhaodd y 100 cilomedr i fyny ac i lawr mynyddoedd Eryri mewn 17 awr, 41 munud a 58 eiliad.

Ac wrth reswm, roedd Russell Bentley ar ben ei ddigon ar ôl gwibio i gopaon yr Wyddfa a’i chriw – y Glyderau, y Carneddau, y Moelwynion, a Chrib Nantlle.

“Roeddwn i’n hapus iawn i ddod trwyddo’n fyw!” meddai.