Mae bwriad Cyngor Gwynedd i’w gwneud hi’n orfodol i bobol gael caniatâd cynllunio er mwyn newid defnydd eiddo wedi cael ymateb cymysg.
Mae’r categorïau’n cynnwys prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr, ac ar hyn o bryd, mae modd i berchnogion newid rhwng y dosbarthiadau heb yr angen am hawl cynllunio.
Fodd bynnag, er mwyn cael rheolaeth o’r defnydd o dai, bellach mae modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol ddiwygio’r system gynllunio yn eu hardal trwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’r bwriad, tra bo’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y Cyngor, sy’n cael ei arwain gan Blaid Cymru, yn “wrth-fusnes”.
“Rydyn ni’n falch bod Cyngor Gwynedd yn bwriadu dechrau ar y broses o gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4, ac yn gobeithio y bydd cynghorau eraill ar draws Cymru yn dilyn yn fuan,” meddai Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith.
“Mae gwaith sylweddol i’r cynllun felly rydyn ni wedi galw ar y Llywodraeth i ddarparu adnoddau pellach i Awdurdodau Lleol i wneud y gwaith hwnnw.
“Wrth gwrs, rhan o’r broblem yw gormodedd o ail dai a llety gwyliau.
“Yr hyn fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, trwy alluogi pobl i aros yn eu cymunedau, fyddai Deddf Eiddo gyflawn i reoleiddio’r farchnad er mwyn trin tai fel cartrefi yn hytrach nag asedau ar gyfer elw, a dod â thai i berchnogaeth gymunedol.
“Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ‘Cais am dystiolaeth ar sicrhau llwybr tuag at Dai Digonol’ heddiw ond dydy hwnnw ddim yn cyfeirio o gwbl at Ddeddf Eiddo i reoleiddio’r farchnad dai felly dydy’r Llywodraeth ddim yn mynd at wraidd y broblem – dim ond ymdrin â rhai symptomau.”
Mae’r cais am dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddeall rhenti, ymddygiad tenantiaid a landlordiaid, fforddiadwyedd a sut y gellir gwella’r cyflenwad tai dros amser.
‘Cenedlaetholdeb ar ei waethaf’
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywed Janet Finch-Saunders, llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn benderfyniad “syfrdanol” sy’n dangos “cenedlaetholdeb ar ei waethaf” ac yn “typical o amcanion gwrth-uchelgais a gwrth-fusnes Plaid Cymru”.
“Fodd bynnag, mae’r problemau gyda thai yng Nghymru’n gyfrifoldeb i’r Llywodraeth Lafur sydd wedi methu adeiladau digon o dai flwyddyn ar ôl blwyddyn,” meddai.
“Ddylen ni fod yn dod o hyd i ddatrysiadau i ddyblu nifer y tai’n cael eu hadeiladu, nid cosbi perchnogion ail dai sy’n cyfrannu at yr economi leol.
“Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sy’n rhoi pobol gyntaf gyda’n gynllun rhagweithiol i gefnogi pobol ifanc sydd eisiau prynu tŷ eu hunain mewn ardaloedd lle mae lefelau uchel o ail dai gyda’n cynnig Helpu i Brynu Hyper Leol.”