Bydd £15m yn cael ei fuddsoddi er mwyn creu mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru.

Fe fydd y cyllid gan Lywodraeth Cymru’n cael ei ddefnyddio i helpu awdurdodau lleol i gynyddu nifer y cyfleusterau cyn i ddefnydd o gerbydau tanwydd ffosil ddechrau dod i ben yn raddol yn 2030.

Mae’r cyllid newydd yn dilyn y £26m sydd eisoes wedi’i fuddsoddi mewn seilwaith gwefru ledled Cymru ers 2021 sydd wedi creu mwy na 1,600 o bwyntiau gwefru.

Dywed y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, fod angen i yrwyr fod â’r hyder i newid i gerbydau trydan.

“Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith hwn yn cael ei gyflawni gan y sector preifat ond ein rôl ni yw hwyluso buddsoddiadau’r sector preifat ledled Cymru a sicrhau mynediad cyfartal,” meddai Lee Waters.

“Er mwyn helpu gyda hyn, rydym wedi creu tasglu’r sector preifat a fydd yn ymgysylltu â’r farchnad, yn chwalu unrhyw rwystrau rhag buddsoddi ac yn cyflymu’r broses o gyflwyno seilwaith gwefru.

“Mae’r cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn gam arall i’r cyfeiriad cywir ond mae gennym ragor o waith i’w wneud – byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a’r sector preifat fel bod Cymru’n cadw i fyny â’r cynnydd cyflym yn nifer y cerbydau trydan.”

‘Lleihau trafnidiaeth garbon’

Mae’r arian hwn yn ategu at y gronfa Cerbydau Allyriadau Isel Iawn, sydd wedi cychwyn prosiectau i hybu a hwyluso’r defnydd o gerbydau trydan.

Yn rhan o hynny, mae Cyngor Wrecsam wedi derbyn £1m i gyflwyno cyfleusterau gwefru cerbydau trydan mewn canolfan wefru ynghanol y ddinas yn ogystal â mewn safleoedd mwy anghysbell.

“Rydyn ni’n falch o dderbyn yr arian hwn a fydd yn ein galluogi i barhau â’n gwaith i helpu pobl i newid i Gerbydau Trydan drwy greu hwb symudedd yng nghanol y ddinas a hefyd gefnogi rhai o’n cymunedau llai a mwy gwledig gyda chyfleusterau i wefru cerbydau trydan lle nad oes modd iddynt barcio oddi ar y ffordd,” meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr Hinsawdd Cyngor Wrecsam.

“Fel rhan o’r prosiect hwn rydym hefyd yn bwriadu ychwanegu darpariaeth gynyddol i gefnogi teithio llesol a natur.

“Rydyn ni’n awyddus i ddechrau ar y cam pwysig hwn ar y ffordd i leihau trafnidiaeth garbon i Wrecsam.”