Mae Plaid Cymru’n galw am ddatganoli’r hawl i Gymru reoli ei dyfroedd ei hun, er mwyn mynd i’r afael â “phla carthion” ac i ostwng biliau sy’n cynyddu’n sylweddol.
Yn ôl Delyth Jewell, llefarydd Newid Hinsawdd ac Ynni’r blaid, mae preifateiddio dŵr yn “fodel ffaeledig”, a dydy’r fframwaith deddfwriaethol presennol “ddim yn cyfateb i bwerau Cymru tros ddŵr i’n ffiniau”.
O ganlyniad, does gan Gymru mo’r gallu i ddeddfu i atal na rheoli trosglwyddiad dŵr o Gymru gan gwmnïau preifat o Loegr sydd â rheolaeth dros Gymru hefyd, megis United Utilities sydd â chytundeb yn ymwneud â Llyn Efyrnwy.
Tra bo Comisiwn Silk yn argymell dod â’r anomaledd hyn i ben, a rhoi rheolaeth i Gymru tros ddŵr fel sydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon, datgelodd Plaid Cymru’n ddiweddar fod gweinidogion yn Llywodraeth Cymru wedi gwneud cais i ohirio datganoli dŵr i Gymru.
Bydd Plaid Cymru’n cynnal dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 7) i drafod y mater.
‘Allai’r ddadl heddiw ddim bod yn bwysicach’
“Ar adeg pan fo biliau dŵr yn cynyddu, a phan fo gan y cyhoedd bryderon gwirioneddol am garthion yn ein hafonydd ac ar ein traethau, allai’r ddadl heddiw ddim bod yn bwysicach,” meddai Delyth Jewell.
“Mae hyn yn ymwneud lawer mwy ag annog Aelodau’r Senedd i gefnogi ein cynnig gan ei fod yn ymwneud â dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ymddangos fel pe baen nhw’n gohirio trosglwyddo pwerau am gyfnod amhenodol.
“Mae’r mecanwaith i esgor ar drosglwyddo’r pwerau eisoes yn bodoli – does ond angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno cais ffurfiol, ond ers eu cais i ohirio hyn bum mlynedd yn ôl, dydyn nhw ddim wedi cynnig rhagor o sicrwydd o ran pryd fydd hyn yn digwydd, os o gwbl.
“Pan fo’r system ddŵr ehangach, nad yw’n parchu ffiniau cenedlaethol, yn gosod cwmnïau masnachol sydd wedi’u preifateiddio ochr yn ochr â model Dŵr Cymru, pobol Cymru sydd ar eu colled.
“Mae gan Gymru hawliau cyfansoddiadol i reoli dŵr, fyddai’n ein galluogi ni i fynd i’r afael â charthion yn ein hafonydd a’n moroedd ac i fynd i’r afael â biliau dŵr cynyddol, a thrwy ddadl Plaid Cymru mae gan y Senedd y cyfle i ddangos eu cefnogaeth i’n galwadau.”