Mae camau er mwyn sefydlu Comisynydd Iaith ar gyfer yr iaith Wyddeleg wedi dechrau symud yn eu blaenau.

Daeth rheoliadau iaith newydd i rym fis Rhagfyr diwethaf, pan gafodd Deddf Iaith a Hunaniaeth (Gogledd Iwerddon) ei phasio, ond does dim newidiadau ymarferol wedi dilyn hynny.

Fodd bynnag, yn dilyn cyhoeddiad ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 6) gan Swyddfa Gogledd Iwerddon, mae rheoliadau wedi cael eu creu er mwyn sefydlu Swyddfa Mynegi Hunaniaeth a Diwylliant, Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg, a chomisiynydd ar gyfer Sgotwyr-Ulster a’r Traddodiad Ulster Brydeinig.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywed Steve Baker, Gweinidog yn Swyddfa Gogledd Iwerddon, fod y ddeddf yn cynnig y fframwaith ar gyfer amddiffyn a pharchu holl hunaniaethau, ieithoedd a diwylliannau Gogledd Iwerddon, yn nhyb Llywodraeth San Steffan.

Mae disgwyl i’r broses ar gyfer penodi Comisiynydd ar gyfer yr iaith Wyddeleg gael ei chyhoeddi mewn ychydig o wythnosau.

‘Symud ar frys’

Wrth groesawu’r newyddion, dywed y grŵp ymgyrchu ieithyddol, Conradh na Gaeilge eu bod nhw’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i “symud ar frys i gyhoeddi’r broses benodi ar gyfer Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg”.

“Tra bo’r ddeddfwriaeth Iaith Wyddeleg newydd wedi bod ar y llyfrau cyfreithiol ers dros chwe mis, mae nifer yn ein cymuned wedi bod yn aros ac yn ymgyrchu dros gael hawliau ieithyddol yma ers degawdau,” meddai Conchúr Ó Muadaigh o’r mudiad.

“Nawr ein bod ni’n cyrraedd y cam nesaf yn y broses, rydyn ni’n annog Y Swyddfa Weithredol, a Swyddfa Gogledd Iwerddon, i symud ar frys i gyhoeddi’r broses benodi ar gyfer Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg.

“Heb gysyniad gwleidyddol lleol, ac o ystyried cyflwyno pwerau newydd, rydyn ni’n disgwyl i’r Ysgrifennydd Gwladol gadarnhau’r ymgeisydd llwyddiannus ar unwaith.

“Gan ystyried hyn oll, dylen ni gael ein Comisiynydd Iaith cyntaf mewn ychydig o fisoedd, fydd yn garreg filltir hanesyddol arall i’n cymuned yn y frwydr hirhoedlog hon tuag at hawliau ieithyddol.

“Gyda’r Comisiynydd newydd yn ei swydd, bydd y gwaith o osod safonau ieithyddol i’n holl awdurdodau cyhoeddus yn dechrau.

“Rydyn ni hefyd yn disgwyl yn eiddgar am gyhoeddiad ynglŷn â rhagor o rannau o’r Ddeddf newydd, gan gynnwys diddymu Deddf Cyfiawnder Iwerddon 1737 sy’n parhau i wahardd y Wyddeleg o’n llysoedd.”