Mae cynllun i rannu cartrefi yng Ngwynedd yn anelu at helpu pobol i ddod o hyd i rywle i fyw, helpu i adeiladu cyfeillgarwch, a chynnig cefnogaeth ymarferol i berchnogion tai.

Syniad Cynllun Rhannu Cartref Gwynedd yw fod person sy’n chwilio am le i fyw yn eu cymuned yn symud i mewn at rywun sydd angen cefnogaeth.

Yn ôl Richard Wyn Williams, Rheolwr Cynllun Rhannu Cartref, mae’n cynnig ateb i bobol sy’n cael trafferth dod o hyd i rywle i fyw, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni efo’r argyfwng costau byw.

Y nod yw bod y ddwy ochr yn elwa, boed drwy gwmnïaeth neu fod y person sy’n symud i mewn yn helpu’r llall gyda phethau fel sut i brynu ar y we, sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, twtio’r tŷ, siopa bwyd neu hyd yn oed mynd â’r ci am dro.

“Mae prisiau rhent mor uchel ac mae prisiau tai mor uchel,” meddai Richard Wyn Williams wrth golwg360.

“Mae prisiau llog morgais yn mynd yn fwy uchel.

“Mae o’n ffordd dda i bobol allu byw yn eu cymunedau eu hunain.

“Mae’n ffordd dda i bobol sy’n hoffi helpu pobol sydd efallai yn stryglo yn eu cartrefi eu hunain i gyd-fyw efo nhw.”

Cefnogaeth

Gyda’r person sy’n symud i mewn yn rhoi cymorth ymarferol i’r person sy’n berchen y cartref, a’r person sy’n berchen y cartref yn gallu rhannu eu profiadau bywyd, mae’r ddwy ochr yn elwa.

“Bysa’r person sydd angen y gefnogaeth efo tŷ eu hunain yn derbyn cefnogaeth gan y person sy’n symud mewn i’w cartref,” eglura Richard Wyn Williams.

“Bysan nhw’n cael deg awr o gefnogaeth yr wythnos.

“Mae’n gallu golygu mynd â nhw i siopau, twtio’r tŷ, twtio’r ardd, pethau ymarferol fel yna.

“Rydyn ni’n pwysleisio hefyd, does dim gofal personol o gwbl yn cael ei wneud.

“Mae’n oedi’r broses o berson hŷn yn gorfod cael gofal cartref, pobol yn dod yna i wneud bwyd iddyn nhw ac ati.

“Bysa’r ddau berson yn elwa trwy gael cwmni ei gilydd a chael pryd o fwyd efo’i gilydd gyda’r nos

“Mae yna ystadegau gan Brifysgol yn America bod unigedd yn gallu cael effaith ar iechyd rhywun yn gyfatebol i rywun sy’n smocio 15 sigarét y dydd, felly meddylia am niwed i iechyd rywun sy’n smocio hefyd.

“Efo’r gefnogaeth maen nhw’n cael, byddai’n gallu golygu bod y person sy’n symud mewn yn dangos iddyn nhw sut i fynd ar Facebook a sut i archebu pethau oddi ar y we a phethau fel yna.

“Mae’n gweithio’r ffordd arall rownd hefyd, a’r person sy’n symud mewn yn dysgu sgiliau bywyd.

“Bysa’r person sydd angen y gefnogaeth yn gallu defnyddio’u profiadau bywyd nhw i roi cymorth iddyn nhw.

“Mae cadw pobol yn annibynnol a chadw pobol sydd angen cartref yn eu cymunedau eu hunan yn bwysig.”