Mae Cefin Campbell wedi cadarnhau na fydd yn sefyll yn ras arweinyddol Plaid Cymru i olynu Adam Price.

Dywed mewn datganiad ar Twitter ei fod yn “aelod cymharol newydd o’r Senedd, sydd yn dal i ffeindio’i draed”.

Wrth ddatgan na fydd yn sefyll i fod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru, dywed ei fod yn edrych ymlaen at roi ei “gefnogaeth lwyr” i’r arweinydd nesaf, fod y misoedd diwethaf wedi bod yn “heriol” i’r blaid, a’i fod wedi bod yn adlewyrchu ar ddigwyddiadau dros hanner tymor.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb wnaeth ofyn i mi fynd amdani,” meddai.

“Fodd bynnag, fel aelod cymharol newydd o’r Senedd, sydd yn dal i ffeindio’i draed, rwyf wedi penderfynu peidio ymgeisio am yr enwebiad.”

Daeth Cefin Campbell i frig rhestr ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Plaid Cymru yn etholiadau’r Senedd yn 2021, ac arweiniodd hyn ato’n cael ei ethol.

Honiadau o fwlio ac aflonyddu

Mae Plaid Cymru wedi wynebu beirniadaeth helaeth dros y misoedd diwethaf, yn dilyn honiadau o aflonyddu, bwlio a gwreig-gasineb (misogyny) o dan arweinyddiaeth Adam Price.

O ganlyniad, penderfynodd y cyn-arweinydd ymddiswyddo ar Fai 10 yn dilyn adroddiad Prosiect Pawb, ddatgelodd nad oedd camau wedi eu cymryd i sicrhau dull dim goddefgarwch.

Llŷr Gruffydd yw’r arweinydd dros dro ers Mai 17, ond fydd e ddim yn sefyll i fod yn arweinydd parhaol i’r blaid.

“Rwy’n croesawu’r ffaith bod Llŷr wedi dechrau ar y gwaith o adlewyrchu, diwygio ac adfywio, a bod Rhun [ap Iorwerth] wedi cyflwyno ei enw i adeiladu ar hyn wrth i’r Blaid symud ymlaen at y dyfodol,” meddai Cefin Campbell.

“Rwy’n edrych ymlaen at roi fy nghefnogaeth lwyr i arweinydd nesaf y Blaid i sicrhau bod anghenion Cymru’n cael eu cwrdd.

“Fel aelod dynodedig, edrychaf ymlaen hefyd i barhau gyda gwaith y Cytundeb Cydweithio ac i adeiladu Cymru decach, fwy democrataidd a llewyrchus.”

‘Rhinweddau ardderchog’

Hyd yma, Rhun ap Iorwerth yw’r unig ymgeisydd sydd wedi cyflwyno’i enw i sefyll yn y ras arweinyddol.

Dywed Delyth Jewell, sy’n aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ei bod hi’n hyderus yn ei allu i fynd i’r afael a heriau presennol y blaid.

“Rwy’n meddwl fod gan Rhun rinweddau ardderchog a fyddai’n fuddiol i’r Blaid,” meddai wrth golwg360.

“Mae e’n gyfathrebwr heb ei ail ac rwy’n sicr y byddai’n gallu dod â’r blaid ynghyd.

“Buaswn i’n hapus iawn i weithio o dan ei arweinyddiaeth.”

Yn ôl Delyth Jewell, mae’n rhaid i’r blaid weithio ar argymhellion yr adroddiad wrth symud ymlaen.

“Rwy’n teimlo bod yn rhaid i’r arweinydd nesaf fynd i’r afael ag adroddiad Nerys Evans,” meddai.

“Mae hyn wedi bod yn gyfnod anodd i’r Blaid, ond mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r argymhellion oedd yn yr adroddiad yna, ac fel yr unig ymgeisydd sydd gennym ni hyd yn hyn, rwy’n teimlo’n ffyddiog y byddai Rhun yn gwneud hynny.”

Delyth Jewell ddim am sefyll i arwain Plaid Cymru

Daw cyhoeddiad yr Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru drannoeth cyhoeddiad Rhun ap Iorwerth y bydd yntau’n sefyll i olynu Adam Price

Rhun ap Iorwerth am gyflwyno’i enw i arwain Plaid Cymru

Yr Aelod dros Ynys Môn yw’r ymgeisydd cyntaf yn y ras i olynu Adam Price