Mae Delyth Jewell wedi cadarnhau na fydd hi’n sefyll yn y ras i arwain Plaid Cymru.

Daw sylwadau’r Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru drannoeth cyhoeddiad Rhun ap Iorwerth, yr Aelod dros Ynys Môn, ei fod yntau’n sefyll i olynu Adam Price.

“Diolch i’r rheiny sydd wedi gofyn i fi am arweinyddiaeth Plaid Cymru,” meddai Delyth Jewell ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae eich geiriau caredig yn fy ngwneud i’n wylaidd.

“Fydda i ddim yn cyflwyno fy enw.

“Dw i’n edrych ymlaen at gydweithio â’r arweinydd newydd er lles ein cymunedau a thros Gymru.

“Mewn undeb mae nerth.”

Adroddiad

Fe wnaeth yr adroddiad Prosiect Pawb gan Nerys Evans ganfod methiannau yn arweinyddiaeth Adam Price wrth fynd i’r afael â honiadau o aflonyddu rhywiol a bwlio.

Ymhlith casgliadau’r adroddiad roedd y ffaith nad oes camau yn eu lle i sicrhau dull dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol, a bod menywod wedi cael eu “gadael lawr” gan y blaid.

Roedd hefyd yn cyfeirio at achosion nad oedden nhw’n achosion unigol, a diwylliant o ofn wrth sôn am yr achosion hyn.

Fe wnaeth Adam Price ymddiheuro ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.

Rhun ap Iorwerth am gyflwyno’i enw i arwain Plaid Cymru

Yr Aelod dros Ynys Môn yw’r ymgeisydd cyntaf yn y ras i olynu Adam Price