Mae Rhun ap Iorwerth wedi cyhoeddi ei fwriad i gyflwyno’i enw i arwain Plaid Cymru.

Yr Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn yw’r ymgeisydd cyntaf yn y ras i olynu Adam Price, oedd wedi ymddiswyddo’n ddiweddar.

Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed fod y blaid “ar groesffordd” a bod ganddyn nhw “heriau difrifol” yn sgil adroddiad damniol ynghylch diwylliant o ofn o fewn y blaid yn dilyn honiadau o fwlio ac agweddau rhywiaethol a gwreig-gasineb (misogyny).

Tra ei fod yn dweud nad yw’n “unigryw” i Blaid Cymru, dywed fod y blaid “o ddifri am y dasg” o’u blaenau wrth fynd i’r afael â’r sefyllfa.

Wrth drafod y darlun gwleidyddol yng Nghymru, dywed fod arni angen “Plaid Cymru sy’n ffit, ac yn barod i gynnig gweledigaeth o beth all Cymru fod”.

Adroddiad

Fe wnaeth yr adroddiad Prosiect Pawb gan Nerys Evans ganfod methiannau yn arweinyddiaeth Adam Price wrth fynd i’r afael â honiadau o aflonyddu rhywiol a bwlio.

Ymhlith casgliadau’r adroddiad roedd y ffaith nad oes camau yn eu lle i sicrhau dull dim goddefgarwch tuag at aflonyddu rhywiol, a bod menywod wedi cael eu “gadael lawr” gan y blaid.

Roedd hefyd yn cyfeirio at achosion nad oedden nhw’n achosion unigol, a diwylliant o ofn wrth sôn am yr achosion hyn.

Fe wnaeth Adam Price ymddiheuro ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.

Llŷr Gruffydd yn dechrau yn ei rôl fel arweinydd dros dro Plaid Cymru

“Er mai byr fydd fy nghyfnod fel arweinydd dros dro, rwy’n benderfynol o gyflymu’r newid cadarnhaol sydd ei angen”

Penodi Llyr Gruffydd yn Arweinydd Dros Dro Plaid Cymru

“Ein ffocws nawr yw symud ymlaen gyda’n gilydd i gyflawni ar ran pobol Cymru, a meithrin gwell diwylliant o fewn y blaid,” meddai Llyr Gruffydd

Adam Price am ymddiswyddo

Bydd arweinydd Plaid Cymru’n camu o’r neilltu unwaith fydd trefniant dros dro yn ei le